MR. OWEN JONES. RACINE, WISCONSIN.
Bwriadaf roddi ychydig o hanes bywyd un yn ychwaneg o bererinion Sion. Yr wyf dan gryn anfantais am fy mod yn hollol anhysbys o'r brawd hyd o fewn blwyddyn yn ôl. Ond yr oedd ei agwedd bob amser yn amlwg ei fod yn un o'r rhai oedd yn ceisio gwlad well; ac yn canlyn Iesu fel dysgybl anwyl.Ganwyd Owen Jones yn Cwmbychan, gerllaw Harlech, Meirion, yn mis Mehefin, 1807. Nid wyf yn gwybod dim am y rhan gyntaf o'i fywyd, ond pan yn 21 mlwydd oed, daeth i Lwyngwril. Aeth yn felinydd yn melin Llwyngwril, ac yn mhen dwy flynedd symudodd i felin Peniarth, Llanegryn, Meirion.
Yn y cyfnod hwn y daeth yn wrandawr ar yr Annibynwyr. Yn melin Peniarth y bu am ychydig o amser, hyd ei symudiad i'r wlad hon. Bu o ugain mlynedd i ddeg ar hugain yn melin Peniarth.
Pum mlynedd yn ôl daeth ef a'i deulu drosodd o'r hen wlad i Racine, ac yma y bu hyd ei ymadawiad i dŷ ei hir gartref.
Pan yn 24 oed, ymunodd ag eglwys Gynulleidfaol Llanegryn, ar nos Sabboth, pan oedd y Parch. Evan Evans yn awr o Langollen yn pregethu; a dau arall a ymunodd hefyd, sef y Parch. Evan Evans, Williamsburg, Iowa, ac Evan Rowlands, Peniarth, yr hwn sydd yn ddiacon gwir barchus yn eglwys Llanegryn, ac yn olynydd yn y swydd i'w dad. Felly bu Owen Jones yn ngwinllan ei Arglwydd am ddeuddeg mlynedd ar hugain, trwy bob rhrwystrau i mewn ac allan, a'i ddiwedd oedd taagnefedd.
Yn fuan wedi ei ddyfodiad yma i Racine, dewiswyd ef yn ddiacon, a pharhaodd yn ei swydd yn ffyddlon iawn a diwyd hyd oni wahanodd angeu ef a'r eglwys filwriaethus i ymuno a'r eglwys orfoleddus fry. Yr oedd ein brawd yn ddyn yn mhob ystyr o'r gair. Nid oedd yn gyfoethog, ond yr oedd yn ddyn. Mae yn anmhosibl gwneud crefyddwr enwog o neb os na bydd yn meddu yr elfenau ag sydd yn gwneud i fyny ddyn. Dywed y prophwyd a'r brenin Dafydd, wrth ei fab Solomon, "Ymnertha, a bydd ŵr," yn ôl y Saesonseg, "Bydd yn ddyn." Yr oedd Owen Jones yn ddyn gonest. Dywedai un y bu yn Racine yn ei felin, "Buaswn yn ymddiried unrhyw werth o dan ei ofal, dyna y dyn gonestaf a welais yn fy mywyd."
Diau fod ei gymeriad yn gyfryw yn ei hen ardal yn Llanegryn. Os oedd yn onest yn ei alwedigaeth, credwn fod yr un egwyddorion yn ei lywodraethu mewn crefydd. Yr oedd yn hynod o ochelgar rhag rhoddi achos tramgwydd i'r rhai sydd yn dueddol i'r gwendid hwnw. Eto ni sathrai air ei Dduw i wyro barn er boddloni neb pwy bynag. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn feddyliwr gwreiddiol. Ni fynai farn neb yn anffaeledig ond barn Duw ei hun, sef ei air. Meddai feddwl cryf iawn, enaid gwir fawr, eto nid oedd yn hyawdl a doniol iawn fel rhai. Ymresymai yn bwyllog ac eglur ar ei bwnc bob amser. Yr oedd yn awyddus am wybodaeth grefyddol ac ysgrythyrol. Mewn cyfarfod ysgol yr oedd yn esbonio am y nef fel un a chanddo hawl rasol ynddi ychydig cyn marw a chyn myned yn wael am y tro olaf. Dywedodd yr ysgrifenydd wrtho, "Y cai efe cyn hir wybod beth oedd y nefoedd trwy brofiad, y byddai yno yn fuan".
Yr oedd yn gallu cyfansoddi barddoniaeth rydd yn bur dda, yr wyf yn credu. Y mae llawer o'i waith yn y Cronicl Bach, ac y mae yr awen yn aros yn y teulu. Yr oedd yn gyfaill gwas yr Arglwydd fel gwas yr Arglwydd, yn agored i golliadau ar y goraf. Mae hyn yn nghymeriad hen aelodau eglwys Llanegryn, sef eu bod yn hynod o sefydlog a ffyddlon i'r weinidogaeth feunyddiol.
Yr oedd yn ddyn defnyddiol yn yr ysgol Sabbothol, yn selog iawn drosti, ae yn profî hyny trwy fod ynddi bob amser; ac yn llenwi ei gylch pa le bynag y byddai yn hynod o ddi-fwloh. Yr oedd yn credu er ys talwm na fuasai yn aros gyda ni yn hir. Yr oedd yn aeddfedu yn amlwg, oblegid yr oedd yn blodeuo yng nghynteddoedd yr Arglwydd.
Ni chafodd ond iechyd gwan er pan y daeth i'r wlad hon - cafodd lawer cyfnod o afiechyd trwm. Ond yr haf diweddaf cafodd ei daro â'i glefyd olaf, sef anhwyldeb yn y rhanau mewnol, yr hyn a gynyrchai boen mawr yn y frest a'r ymysgaroedd, a diweddodd yn y clefyd melyn. Dywedai wrth un o'i hen gyfeillion, John Francis gynt o Dowyn Meirion, pan oedd gyda'i waith, eto yn bur wan, "na byddai ddim byw i fwrw y gauaf hwn." Yr oedd ei afiechyd yn hynod o drwm, fel yr aeth hi yn gryn boen iddo i ddweyd ond ychydig; ond dywedai ei fod yn dawel a sefydlog yn ei ymddiried yn ei Dduw.
Efe a fu farw Hydref 15fed, 1863, ac a gladdwyd y l5fed. Claddwyd ef yn barchus yn nghladdfa Racine. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y gweinidogion canlynol:- R. T. Evans (A.), W. R. Jones (W.), W. Hnghes (T. C.), a'r ysgrifenydd.