MR. RICHARD MARK JONES. FAIRHAVEN, VERMONT.
Nid gorchwyl hawdd ydyw ysgrifenn bywgraffiad pan na byddo llawer o hynodion yn y gwrthddrychau; eto, pa le bynag y deuir o hyd i'r ddoethineb sydd oddi uchod, (neu y wir grefydd,) y mae yn perthyn iddi ei rhagoriaethau, fel y gellir dywedyd fod pob Cristion yn meddu ei ragoriaethau priodol ei hun.Ganwyd gwrthrych y cofiant hwn yn nhref Oaernarfon, tua'r flwyddyn 1816. Enwau ei rieni oeddynt Marc ac Ann Jones. Coffeir am ei fam fel gwraig grefyddol, yr hyn sydd fraint arbenig i'r plant, a diamheu y gallai y fam, yn y cyffredin, wneud mwy er lles y plant pe daliai, fel y dylai wneud, ar y cyfleusdra. Yr oedd iddo frawd yn Slatington, Pennsylvania, un arall yn Llynlleifiad, a chwiorydd yn rhywle yn yr hen wlad, ac amryw berthynasau yn ngorllewin y wlad hon.
Nid llawer a wyddom am y rhan foreuol o fywyd ein cyfaill R. M. Jones, felly rhaid gadael y cyfnod hwnw heb draethu arno. Tua 26 mlynedd yn ôl, ymunodd mewn priodas â Mary, merch i'r hen bererin, Owen Pricbard, Waunfawr, Caernarfon, yr hwn y mae ei enw yn adnabyddus i lawer fel llenor, bardd, a Christion. Bu iddynt 9 o blant, y mae 7 yn fyw, 2 wedi eu claddu yn yr hen wlad.
Daeth at grefydd yn Moria, y Waunfawr, yn amser y diwygiad fu yno 23 o flynyddau yn ôl. Yr oedd yn un o chwech yn cael eu derbyn gyda eu gilydd, sef ei briod, a chwaer iddi, yn nghyd a thri eraill - derbyniwyd hwy trwy ddeheulaw yr hen weinidog ymdrechgar a doniol, y Parch. D. Griffìths, Bethel. Gallesid meddwl wrtho mai un o blant y diwygiadau ydoedd, wrth ei sel - yr ydoedd yn hynod selog pan y cymerai i fyny ag unrhyw gynllun, a byddai am ei weithio allan yn egniol.
Tua 10 mlynedd yn ôl ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn Fairhaven. Yr oedd yn lled agos i'r blaenaf yn sefydliad yr achos Cymreig yma. Oddiar y pryd hyny y daeth yr ysgrifenydd i adnabyddiaeth o hono. Bu yn lled ffyddlon gyda yr achos yma pan yn ei fabandod, a daliodd ei dir heb lawer o golliadau, a byddai argoelion yn ei gyflawniadau cyhoeddus nad ydoedd yn ddyeithr i Dduw yn y dirgel. Ei brif ddadl yn y cyffredin fyddai cael bywyd yn Nghrist, unig fan pechadur edifeiriol.
Tua 2 flynedd yn ôl, (o herwydd fod rhyw ddolur ar ei wefus er ys llawer blwyddyn, gan ofni mai y cancer neu ddafad wyllt ydoedd,) aeth i Rome i chwilio ara feddyginiaeth iddi; er nad ydoedd yn gwneud llawer o boen iddo, eto ofnai. Yno rhoddwyd cyffeiriau at ei thynn ymaith; ond ar ôl dechreu ymhel â hi aeth yn waeth o lawer, a dychwelodd heb fod yn ddim gwell. Bu wedi hyny yn ymgynghori ag amryw feddygon yn nghylch ei thori ymaith, y rhai a'i cynghorent i wneud. Wyth neu naw mis yn ôl aeth i Albany at y Dr. March i'w thori. Cafodd hyny, a dychwelodd adref yn y dysgwyliad o wella; ond yn lle hyny gwaethygu yr ydoedd. Nid llawer a gododd allan wedi cyrhaedd adref y tro hwn, teimlai yn lled ddigalon. Bu mewn un gyfrinach yn Fairhaven, y sonir gan y cyfeillion am dani, yn canmol y Meddyg a ddichon yn "gwbl iachau."
Cafodd gystudd maith, ac er nad ydoedd llawer o ddysgleirdeb rhagoriaethau ynddo i mwy na'r cyffredin yn ei yrfa grefyddol, nac ychwaith yn oleu iawn arno ar ddechreu ei gystudd, eto torodd y wawr cyn y diwedd. Cafodd yr ysgrifenydd y fantais i adnabod y brawd E. M. Jones fel Cristion yn benaf yn ei gystudd. Un tro dygwyddais ei gael a'r Beibl yn agored ar y bennod hynod yn yr Hebreaid, lle y dywedir, "Eu pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach." Waith arall, pan oedd ei briod yn crybwyll wrtho am fywyd tragwyddol, dywedai ei fod yn hyderus y cai ef, er yn annheilwng - nid mewn iaith na theimlad uchel yr oedd, nac mewn adeg y gallai rhagrith flodeuo ynddo, ond wedi hir oedi ar lan yr Iorddonen, a phan yn rhodio glyn cysgod angau.
Y tro diweddaf y cefais ymddyddan ag ef pan wrth ymadael ag ef yn y boreu, cwynai ei flinder; gofynais a oedd yr Arglwydd yn cyweirio ei wely iddo yn ei gystudd, - ei fod wedi addaw hyny i'w blant? Dywedai ei fod, a'i fod yn dda iawn wrtho, ac er ei holl gyfnewidiadau ef, fod Iesu yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd.
Ar yr 8fed o Mai terfynodd ei yrfa ddaearol, o fewn ychydig yn 47 mlwydd oed. Gadawodd amddifaid a gweddw yn ngofal yr hwn a ddywedodd, "Gâd dy amddifaid a mi a'u porthaf, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi," a'r hwn a roddodd ei air y cai eisiau a newyn fod ar y llewod ieuainc cyn y cai eisiau fod ar y rhai a'i hofnant ef, yr hwn nad oes eisiau ei anog i gyfiawni ei addewid. na lle i amheu y cyflawniad o honynt.
Mai 9fed, cyfarfu tyrfa luosog i hebrwng ei weddillion i dŷ ei hir gartref, pan yr anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. R. L. Herbert oddiwrth Luc 17: 10.
W. Griffiths, West Castleton.