WILLIAM J. JONES, WESTERN, NEW YORK.

Ar ôl cystudd lled drwm a ychydig ddyddiau, yn Western, Efrog Newydd, Mr. William. J. Jones, yn 45 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn y ffermdy a elwir Caerau, plwyf Bryncroes, sir Gaernarfon, ac aeth i'r America yn nheulu ei dad, John R. Jones, gan gychwyn y daith y 2ail o Fai, 1831.

Bydd coffadwriaeth ei gymeriad a'i fywyd rhinweddol yn aros yn hir ar feddyliau ei berthynasau a'i gyfeillion lluosog. Ei ddyddiau diweddaf a dreuliwyd mewn poen a chystudd dirfawr yr hyn a ddyoddefodd gyda thawel ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Traethodd ei ymddiried yn Nuw fel unig Feddyg ei enaid gwerthfawr, gan gydnabod mai Efe a wyr oreu beth i wneud a ni, a chan gyflwyno ei hun i ofal ei Waredwr mawr.

Claddwyd ef wrth ochr ei dad yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben, a gweinyddwyd gan Mr. J. W. James, Remsen, a Mr. Loomer, Steuben.

Y CENHADWR AMERICANAIDD ~ Gorffennaf 1863.