MISS. JANE LEWIS, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch Evan ac Elinor Lewis, Gof, Fachwen, Rhoshirwaun. Bedyddiwyd yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 12/9/1790.

Ymfudodd i America gyda rhai o'i theulu yn 1818.

Ni fu Jane erioed yn briod ac yr oedd yn byw gyda'i chwaer Ann a'i gwr James R Jones ar fferm yn ardal French Road. Ymhen amser symydodd James ac Ann i fferm ym mhlwyf Trenton ac aeth Jane i fyw at ei nith, Elinor Griffith i Steuben.

Bu Jane Lewis farw ar 29ain Ebrill 1863 ac mae ei gweddillion wedi cael eu claddu ym mynwent Prospect gyda'i chwaer Ann a'i gwr, James.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.


MISS. JANE LEWIS, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Miss. Jane Lewis ydoedd ferch i Evan ac Elinor Lewis o Fachwen, plwyf Aberdaron, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Unodd gydag achos yr Arglwydd yn yr eglwys Fethodistiaidd yn Rhydlios, yn agos i'w chartref, pan oedd tuag 16 mlwydd oed. Bu brawd iddi yn flaenor dros flynyddau yn yr eglwys hono.

Daeth drosodd i America yn y flwyddyn 1818, yn yr un llong a'r diwedder James Owen, ysw., o Trenton, pryd y daeth lluaws mawr o Gymry i'r wlad hon. Parhaodd yn ffyddLon yn ei phroffes a chydag achos yr Arglwydd hyd angau. Ni bu erioed yn briod.

Yn nheulu ei chwaer a'i brawd yn nghyfraith, James R. Jones, Steuben, (yn awr o Penygraig) yr oedd yn gwneud ei chartref er pan y daeth i'r wlad hon, ac yn aelod o'r eglwys Fethodistiaidd yn French Road, er pan ffurfiwyd yr eglwys hono, ond yn awr er's tua 9 mlynedd yr oedd yn byw gyda ei nith Mrs. Elinor Grìffitbs a Griffith T. Griffiths, Steuben, ac yn mwynhau breintiau crefyddol yn yr eglwys Annibynol yn y Capel Ucha. Yr oedd yn Gristion profiadol, ac yn hoff o ymddiddan am bethau crefyddol. Gair a orphwysodd yn ddwys ar ei meddwl hi, fel y bu yn coffau wrth ei brawd yn nghyfraitb, oedd y gair hwnw, "Na ad fy enaid yn ddiymgeledd." Hyderwn y gwyddai trwy brofiad am y ddwyfol ymgeledd. Bu yn ymddiddan yn hyfryd â'r brawd R. Everett yn ei chystudd diweddaf, pan yr ymddangosai yn gwbl heddychol ac yn ymostyngol i ewyllys yr Arglwydd, a'i bod yn ymorphwyo yn dawel ar holl ddigonedd y Gwaredwr.

Yr oedd yn un addfwyn, dawel a thirion iawn bob amser. Ymddygai fel mam dyner ac anwylaidd at y plant yn nheulu ei nith - a theimlodd ddwys alar pan fu farw ei hanwyl Catharine fach, o'r Diphtheria, ychydig ddyddiau o'i blaen hi. Teimlìr yn hir yn y teulu y golled ar ei hol. Ni bu ei chystodd oud byr - dim clefyd neillduol - ond gwaelu yn raddol a wnaeth - a hunodd yn dawel (fel y mae ein hyder) yn yr Iesu, Ebrill 29ain, tua 70 oed.

Claddwyd hi yn naynwent Horeb, French Road, a gweinyddwyd gan R. Everett oddiwrih Ioan 14 • 2, 3, " Yr wyf fi yn myned i barotoi lle i chwi.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorffenaf 1863.