MRS. MARGARET W. OWEN. OAK HILL, OHIO.

Mehefin 6ed, 1863, yn ardal Oak Hill, Ohio, Mrs. Margaret W. Owen, priod John W. Owen, yn ychydig dros 44 mlwydd oed.

Merch ydoedd i'r diweddar William ac Elizabeth Williams, y rhai ychydig yn ôl y cyhoeddwyd eu cofiant yn y Cenhadwr.

Ganwyd hi Chwefror 11eg, 1819, yn Rhiwlas ger Bangor, Caernarfon.

Priododd â J. W. Owen, Parc Llanfairfechan ger Bangor yn Chwefror 1841. Daeth ei rhieni i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846 gyda 12 o blant ac wyrion - 8 o honynt yn awr wedi marw.

Daeth hithau drosodd yr un pryd a'i rhieni. Yr oedd yn chwaer garedig a haelionus - yn chwaer grefyddol ac yn hof o siarad am bethau crefydd. Bydded bendith Iôr ar ei phriod galarus.

Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. John Evans (T. C ) a'r ysgrifenydd. William. Thomas.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1863.