MRS. ELLINOR PIERCE, LA CROSSE, WISCONSIN.

Hydref 10fed, yn Bethel, ger La Crosse, Wisconsin, Mrs. Ellinor Pierce, priod Mr. Richard Pierce, o'r lle uchod, wedi naw mis o gystadd trwm, er galar a cholled fawr i'w theulu, i'r eglwys, ac i'r gymydogaeth.

Claddwydl hi y 12fed yn monwent Fish Creek; y Parch, W. Jones [B.], yn gweinyddu ar yr achlysur, yn absenoldeb yr ysgrifenydd.

Ganwyd Mrs. Pierce ar y 3ydd o Fawrth, 1816, yn mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon Gogledd Cymru, mewn lle o'r enw Fachwen. Ei thad ydoedd flaenor eglwysig o hynodrwydd gyda'r T. C. yn y gymydogaeth, o'r enw Hugh Morris. Yr ydoedd hefyd yn chwaer i'r diweddar Barch. Morris Hughes, Felinheli, Gogledd Cymru.

Ymfudodd hi a'i theulu o Gymru i Wisconsin yn Gorphenaf 1849; ymsefydlasant am bedair blynedd yn agos i Racine; wedi hyny ymfudasant i ddyffryn La Crosse, a bu yma am y deng mlyned olaf.

Dygwyd Mrs. Pierce ì fyny yn yr eglwys o'i mebyd - bu nid yn unig yn ddiddolur i bob cymdeithas grefyddol ag y bu yn aelod o honi, ond hefyd bu yn addurn i'w phroffes, yn help i'r gwaith, yn dilyn Crist, ac yn ogoniant i Dduw, a hyny yn amrywiol amgylchiadau oes o 47 mlynedd, yr hon a fu o ran cysuron tymhorol yn "Nid dydd, ac nid nos."

Yr oedd ein chwaer yn feddiannol ar alluoedd meddyliol cryfach na'r cyffredin o ferched yn meddu syniadau uniawn am bopeth. Meddai dalent er llywodraethu ei theulu yn ddoeth, ie, a gwlad ac eglwys hefyd pe buasai eisieu. Medr ganu nes synu y cywrain, a thoddi y caled, a chynghori nes sobri pawb. Mewn gwirionedd, medrai weithio a darfu weithio; medrai ddyoddef, a darfu ddyoddef. Medrai ymladd â thónau bywyd trallodus ar un llaw, a hwylio i borthladd sicr â'r llaw arall, ac heddyw mae yn sangu ar fryniau y wlad "well." Mae ei cholli o eglwys fechan ag sydd beliach er ys pum mlynedd o dan fy ngofal, yn drallod o'r fath ddwysaf i ni. Yr eiddoch,
R. WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1863.