MR. HUGH RICHARDS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 4ydd, yn Remsen, Swydd Oneida, New York, ar ôl byr gystudd, Hugh Richard, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 90 mlwydd a chwe' mis. Yr oedd wedi colli ei olygon er ys dros ddwy flynedd, yr hyn a barodd iddo ddigalondid mawr. Yr oedd yn hen ŵr hynod o barchus yn ei gymydogaeth.

Brodor ydoedd o Ynys Enlli, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon er ys llawer o flynyddoedd yn ôl. Y mae wedi gadael i alaru ar ei ôl ei hen briod oedranus, a'i merch fabwysiedig, yr hon sydd yn rhagori ar ddegau o ferched naturiol yn ei gofal am ei thad a'i mam mabwysiedig; y mae yn ferch grefyddol, ac yn ddiau ni chyll ei gwobr.

Y Sabboth canlynol ymgasglodd torf luosog o'i gymydogion a'i ffrindiau i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent Penycaerau, pryd y gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. J. J. Vaughan a'r ysgrifenydd.
OWEN F. PARRY.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1863.