MR. ROBERT ROBERTS, BRYNGLAS, CAMBRIA, WISCONSIN.

Bu farw gwrthddrych ein cofiant Awst 16eg, 1863, yn y 77ain flwyddyn o'i oedran. Ei afiechyd oedd y Dysentery. Arferai ddymuno ar iddo pan ddeuai yr amser i ymadael a'r byd, gael myned wrth ychydîg o gystudd - cafodd felly. Yr oedd yn iach ddydd Mercher, ac yn marw y Sabboth canlynol.

Gadawodd wyth o blant yn fyw ar ei ôl. Yr oedd ei briod wedi ei ragflaenu er ys rhai blynyddoedd. Cafodd yn ei gystudd bob ymgeledd oddíwrth blant tyner a ffyddlon, a phob cynorthwy a allesid ei wneyd gan feddyg medrus. Bu farw mewn tangnefedd.

Claddwyd ef gyda galar a pharch. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Brodyr R. Evans a William Jones, a thraddododd yr olaf bregeth angladdol yn nghapel Seion un o'r Sabbothau canlynol.

Lle preswylíbd Robert Roberts yn Nghymru oed Dwygyfylchi, Sir Gaernarfon. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1850, ac ymsefydlodd yma, lle y treuliodd 13 o flvnyddoedd yn fywiog, parchus, a defnyddiol. Yr oedd yn ddyn fedrai wneyd y goreu o'r'ddau fyd, felly pan fu farw yr oedd ganddo lawer i'w adael i'r plant, a digon iddo ei hun. fel y gallwn hyderu. Mae manylion dechreuad ei oes grefyddol yn anbysbys i'r ysgrifenydd, ond yr oedd yn eglur wrth ei wrando yn ymddyddan ag ieuenctyd yr eglwysi iddo golli y boreu, a'i fod yn teimlo y golled ar hyd ei oes. Cwynai yn deimladwy ei fod mor anfedrus i gyflawni gwaith ei swydd, ond efe oedd yn cwyno, ac nid ereill; ac onid oedd hyn yn llawer gwell na bod ereill yn cwyno, a'r person ei hun yn meddwl ei fod yn llon'd ei le, ac nad oedd neb ato. Onid felly y mae yn rhy aml?

Ymddengys mai nid hir y bu wedi ymuno â'r eglwys cyn cael ei ddewis yn ddiacon, ac er iddo newid ei breswylfod amryw weithiau, ni chai ei esgusodi yn un man rhag myned dan gyfrifoldeb Blaenor, felly hyd ddiwedd ei oes faith. Y Sabboth olaf ond yr un y bu farw arno, yr oedd yn y capel yn trefnu Bwrdd yr Arglwydd, ac yn cyhoeddi y moddion am yr wythnos a'r Sabboth canlynol.

Yr oedd y brawd hwn ar ôl amryw frodyr mewn rhai pethau: ni ddysgodd erioed amgylchu môr a thir wrth ddweyd yr hyn fyddai ar ei feddwl; yr oedd cadw cynulleidfa i ddyfalu a phrophwydo beth oedd i ddod allan yn y diwedd yn beth na wyddai ef ddim am dano. Dywedai ei feddwl yn ddigwmpas, a gwyddai pawb, os dywedai ryw beth, mai dweyd ei feddwl a theimlad ei galon a wnai, beth bynag fyddai y canlyniad.

Cafodd lawer o fantais mewn oes mor hir i ddysgu gwenieithio, ond yr oedd mor ddiamcan ati ar ddiwedd ei oes a phe heb glywed neb wrthi erioed. Yr oedd yn ddigon a pheri i un feddwl nad oedd arno awydd i ddysgu y gangen boblogaidd hono o wybodaeth.

Medrai ddigio yn llawn mor fuan ag ambell un, ond medrai faddeu yn gynt na fawr neb yn y wlad. Ac 'nid ar air ac ar dafod yn unig' y dangosai ei sêl gydag achos y Gwaredwr, ond mewn gweithred a gwirionedd. Gallai anog yr eglwys i haelioni heb i neb deimlo yn galed eisiau na b'ai yn rhoi ei hunan. Bydded i'w rinweddau flaguro yn ei deulu, yr eglwys a'r gymydogaeth ddyddiau lawer.

Cafodd yr eglwys lle y perthynai golledion yn ei farwolaeth ef, a'r brawd David Owen, y Gaerwen. Cyfoded yr Arglwydd rai eto wrth fodd ei galon i lenwi ei le.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1863.