MR. ROBERT J. ROBERTS. LITTLE GAP, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Pan yn dychwelyd adref o neges, Medi 12fed, cyfarfyddodd Robert J. Roberts (alias Robyn Glyn y Meibion) a'i ddiwedd trwy foddi yn un o gloddfeydd llechau y Bwlch Bach, (Little Gap). Pan y cychwynai o fan ei neges yr oedd bachgenyn gydag ef, a phan ar y ffordd dywedai Robert wrth y bacbgen am brysuro gartref gynted y gallai, oblegyd, meddai, ymddengys yn debyg o wlawio yn drwm yu fuan. Ar hyny elai y naill a'r llall idd ei ffordd ei hun.

Croesai Robert gae er mwyn cyrhaedd ffordd a orwedd yr ochr arall i'r cae hwnw, yr hon ffordd a amcauai ei chael er cyrhaedd i'r fan amcanedig yn gynt. Ond tybir iddo, yn ei frys a chan dywyllwch y nos, fyned tros y ffordd yn ddiwybod, a myned rhag ei flaen i'r gloddfa (yr hon sydd ychydig o'r ffordd) a boddi.

Y boreu canlynol anfonai ei wraig un o'r bechgyn i ymofyn am dano i'r man y bu y nos flaenorol. Dywedai y bobl hyny iddo ymadael oddi yno am haner awr wedi saith y nos flaenorol, gan hefyd hysbysu y ffbrdd yr aeth. Cyfeiriai y bachgen y ffordd iddo drachefu gan ymofyn a'r cymydogion, a welsant hwy ei dad ef. Ond ni wyddai neb ddim amdano a gan nad oedd gair o'i hanes ofnwyd iddo gyfarfod â damwain.

Yna aethant i ymchwilio i'r man y cyfeiriai y trancedig am dano y nos flaenorol. Aethant at y gloddfa, a gwelsant ôl ymlithriad ar y pridd, uwchlaw y dwfr, ac wrth yr arwydd hwnw ofnasant mai yno yr oedd gwrthrych eu hymchwiliad. Felly parotoisant gyfryngau priodol er gwneud ymgais am dano, a phrofodd y dybiaeth yn wir. Oddeutu deg boreu Sabboth yr oeddynt wedi ei gael allan o'r dwfr. Yr oedd dyfnder ei godwm cyn cyrhaedd y dwfr oddeutu 20 troedfedd, dyfnder y dwfr tua 15 troedfedd.

Y mae pawb yn rhyfeddu yn fawr pa fodd y bu iddo ddygwydd â'r ddamwain hon gan ei fod yn dra chyfarwydd â'r lle, ac yn awr, fel bob amser arall, yn hollawl rydd oddiwrth effeithiau y gwlybwr meddwol.

Gadawodd wraig (Ellmynes) a chwech o blant o dan ei gofal (tri iddo ef yn briodol a'r tri arall o ŵr cyntaf ei wraig). Edrychai y teulu oll mewn gwir alar amdano, ac nid heb achos, canys yr oedd yn ŵr addfwyn ac yn dad tyner a gofalus. Fel cymydog, hefyd yr oedd yn cael lle yn y radd uchaf yn mynwesau ei gymydogion yn yr ystyr hwnw.

Daiarwyd ei farwol ran yn nghladdfan Cherryville y Mawrth caulynol, pan oddeutu 40 mlwydd oed. Gweinyddwyd gwasanaeth y gladdedigaeth gau Ellmynwyr.

Mab ydoedd y trancedig i Robert ac Elinor Roberts» gynt o Glyn-y-Meibion, Llandwrog, Arfon.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1863.