MR. WILLIAM R. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Chwefror 3ydd, 1863, yr henafgwr adnabyddus i lawer, Mr WILLIAM ROBERTS, Madrin, ger Bethel, plwyf Remsen, wedi cyrhaedd yr oedran o 89 mlwydd 3 mis a rhai dyddiau.Yr ydoedd yn enedigoì o'r Plasgwyn ger Pwllheli. Buodd yn aros amryw flynyddoedd yn gweithîo gwaith saer yn Madrin, sir Gaernarfon, ac arferwyd yr enw am ei gartref yn y wlad hon
Ymfudodd yma yn y flwyddyn 1819, a sefydlodd yn Remsen o hyny hyd ei ddiwedd. Dechreuodd mewn sefyllfa isel ac angenus, ond trwy lafur a diwydrwydd. fel teulu.cyrhaeddasant sefyllfa gysurus a llawn o bethau y ddaear hon.
Yr ydoedd yn weddw er y flwyddyn 1850, gadawodd, ddau fab ac wyrion i alaru ar ei ôl. Yr ydoedd o'r un ardal ac yn un o gyfoedion y Parch, John Elias; bu o dan ddylanwad crefydd yn moreu, ei fywyd hyd nes y bu yn gafael yn nrws Capel Penmount,, Pwllheli, ddwywaith i fyned i'r Society, a thrwy ofn a phetrusdod yn cilio yn ôl ac yn methu, a pharhaodd felly heb broffesu crefydd hyd nes ydoedd tua deg a thriugain oed; o'r pryd hwnw ymwelodd yr Arglwydd ag ef trwy bregeth y Parch. Jenkin Jenkins, yn awr o Minnesota, yn nghapel Bethel, lle y proffesodd enw Crist hyd ei fedd.
Yr ydoedd wedi trafaelio llawer o Ogledd Cymru, yn neillduol gofus am y gwahanol fanau a phersonau, amgylchiadau ac oedran llawer. Ac yn gofiadur mawr o hen bregethwyr a hen bregethau, ac ymddygiadau hen grefyddwyr Cymru, ac yn adroddwr cynefin o'r pethau hyny, er llawer o ddifyrwch i'r rhai a garent y pethau hyny.
Yr ydoedd yn gyfarwydd yn ngair Duw, ac adroddai gyda phleser aml ran o hono fel ei brofiad yn ei ddyddiau diweddaf. Gwelai i ddarllen y llythyrenau manaf heb wydrau, er ei fod wedi bod yn eu gwisgo dros flynyddau. Yr ydoedd wedi myned yn fusgrell a ffaeledig iawn ers blynyddau bellach ac felly y dibenodd ei ddiwrnod.
Claddwyd ei ran farwol yn Bethel yn ochr ei anwyl briod, a gweinyddwyd yn ei angladd gan y brodyr Salisbury, Everett a Roberts.
MORRIS ROBERTS.