MR. WILLIAM ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 17eg, 1863, yn mhlwyf Remsen, yn dra sydyn mewn llewyg, Mr. William R. Roberts, yn 65 mlwydd oed.

Yr oedd yn Gristion ffyddlon, yn aelod o eglwys y T. C. yn Mhenycaerau er's llawer o flynyddoedd.

Claddwyd ef yn mynwent Penycaerau, a gweinyddwyd gan y brodyr Evan Morris, R. Everett ac E. Salisbury.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1863.