MISS ELLEN ROWLANDS. PEN Y GWRHYD, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Mehefin 19eg, 1863 yn 31 mlwydd oed, Miss Ellen Rowlands, merch Mr. John B. Rowlands, Pen-y-gwrhyd, Welsh Prairie, Wisconsin, gynt o Ben-y-gwrhyd, plwyf Beddgelert, Gogledd Cymru.Ei chlefyd oedd y Darfodedigaeth. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel a thangnefeddus.
Ni fwriadwn ysgrifenu cofiant maith iddi. Dichon nad oedd dim mor hynod yn ei bywyd fel y byddai yn ddoeth gwneyd hyny. Ac yr ydym yn sicr nad oes dim yn ei choffadwriacth yn galw am gofiant hir, fel halen, i'w gadw rhag llygru; na dim yn ei chymeriad yn galw am wasanaeth na bywgraffiad, na marwnad i geisio gwella dim arno. Os na ellir dyweyd fod ei rhinweddau yn gyfryw ag y buasai yn werth gan gymdeithas dalu rhyw sylw a pharch neillduol iddynt, gollir yn hyf ddyweyd fod ei beian, pa beth bynag oeddynt, wedi dianc sylw pob cymdeithas ond yr un a allai fodoli rhyngddi hi a'i Duw.
Aeth o'r byd heb adael cymaint ag un esiampl ddrwg ar ei hol — heb lygru dim mewn un modd ar awyrgylch cymdeithas; ac wrth wneyd hyny rhoddodd, o leiaf, un esiampl y byddai llawer crefyddwr ar ei fantais pe talai fwy o sylw iddi. Yr oedd yn aelod crefyddol er ys saith neu wyth mlynedd; ond y mae crefydd yn cael y fath gam oddiar law cynifer o'i phroffeswyr yn yr oes hon, fel mai prin y mae yn werth crybwyll hyny am neb. Ond geliìr dyweyd mwy na hyny am Ellen; sef fod yr oll a wyddom am ei bywyd yn brawf pur gadarnhaol fod ganddi grefydd yn eiddo iddi ei hun.
Nid oedd dim trwst yn perthyn i'w chrefydd. Un ddystaw - fwy tebyg i'r gwlith ydoedd; ac yr oedd hyny yn awyrym pur ffafriol ei bod o'r iawn ryw; oblegyd nid un yn gwaeddi, ac yn llefain, ac yn peri clywed ei llef yn yr heolydd ydyw hi. Gwyddom mai un dystaw yw y gwlith, yn gystal ag y gwyddom mai y cawodydd mwyaf trystfawr fydd yn ysigo mwyaf o lysiau ac yn pydru mwyaf o wraidd.
Hyderwn fod y grefydd ddidrwst, y llithrodd Ellen mor dawel yn ei gafael, o gyrhaedd pawb, i'r caddug hwnw y mnae holl lusernau rheswm yn methu taflu eu llewyrch trwyddo - yn gyfryw, ag na all unrhyw oleuni purach a dwyfolach a ddichon dywynu arni, ond peri iddi ddysgleirio yn fwy tanbaid, ac adlewyrchu delw yr Haul yn fwy.