MRS. MARY WILLIAMS. PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

Hon ydoedd ferch i Thomas a Mary Hughes, Ty'nrhos, Llanuwchlyn, Gogledd Cymru. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1808.

Cafodd ei dwyn i fyny tan ofal mam ag oedd yn hynod mewn ymdrech gyd a chrefydd.

Pan yn 22 oed priododd â Mr. William Williams, Moel y Garnedd, plwyf Llanecil, gyda'r hwn, y bu fyw yn dawel hyd ddiwedd ei hoes, a gadawodd ef a thri o feibion, (un o ba rai sydd yn myddin ein gwlad) i alaru ar ôl gwraig ofalus a mam dyner.

Yn y flwyddyn 1851 daeth ei phriod drosodd i'r wlad hon, ac yn mhen y flwyddyn gallodd gael ei deulu drosodd, a sefydlasant yn Steuben, Swydd Oneida, ac yno yr arosasant hyd y flwyddyn 1862, pryd yr ymfudasant i Plainfield, Swydd Otsego, New York.

Ond cyn pen wyth mis symudwyd hi i'w chartref tragwyddol. Cafodd gystadd poenus am y deg mlynedd diweddaf o'i hoes, oddiwith y cancer. Dechreuodd y tu uchaf i'w thalcen, ac er pob ymdrech meddygol, ymledodd y dolur dros y rhan fwyaf o'i gwyneb, ac i lawr i'r gwddf, a therfynodd yn ei hangau, Rhagfyr 25, 1862.

Claddwyd hi yn nghladdfa Unadilla Forks. Cyn cychwyn pregethwyd i dyrfa luosog gan y Parch. J. Adams yn Gymraeg, a T. Thomas, Utica, yn Saesoneg.

Yr ydoedd y chwaer hoff wedi treulio blynyddoedd lawer fel yn cloffi rhwng dau feddwl, a theimlodd lawer yn ddwys a galarus, am ei hynfydrwydd o aros mewn newyn, pan yr oedd y wledd lawn yn cael ei dangos o'i blaen yn efengyl gras Duw. Yr ydoedd bob amser o ymddygiad difrifol, ac yn un o'r rhai mwyaf selog gyd a'r Ysgol Sabbothol, a dilynai holl foddion cyhoeddus crefyddol. Gwrandawodd luaws mawr o bregethau, yn nghapel mawr y Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala, ac yr oedd hyd derfyn ei bywyd, yn cofio, ac yn son am y pregethau a'r gweddiau a'r emynau, a glywodd gan J. Elias, Henry Rees, Ebenezer Richard, Lewis Edwards, Lewis Jones, llawer o'r rhai a'i blaenasant hi adref.

Er hynny arosodd heb wneud proffes gyhoeddus hyd y flwyddyn 1854, pryd yr ymunodd a'r achos yn Penygraig, a bu fyw yn hynod ddi-brofedigaeth i'r frawdoliaeth, ac yr oedd yn anwyl iawn ganddynt oll.

Dyoddefodd ei chystudd poenus yn amyneddgar, ac ni chlywyd hi trwy yr holl flynyddoedd yn grwgnach, nac yn dweud un gair yn tueddu i feio trefn ei Thad nefol tuag ati; ond ei chwyn cyffredin fyddai, "O na allwn fod yn fwy gostyngedig a diolchgar." Dyna oedd ei chwyn y tro olaf y gwelais hi, ac felly parhaodd yn dawel, nes huno yn angau, braidd heb wybod iddi ei hun.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1863.