MISS. ELIZABETH WYNNE. MARTINSBURGH, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 3ydd, yn Martinsburgh, Swydd Lewis, Caerefrog Newydd, yn 34 mlwydd oed, o'r Darfodedigaeth; Elizabeth, merch Mr. William a Mrs. Ellen Wynne, gynt o Laniestyn, Lleyn, Sir Gaernarfon.Bu yn wael dros ugain mlynedd, ond cafodd y fraint o ddal yu hynod siriol a dirwgnach am yspaid ei chystudd maith. Cẁynai yn aml ei bod mewn ardal lle nas gallai fwynhau cymdeithas pobl yr Arglwydd, ac amlygai arwyddion boddhaol o'r deyrnas nefoedd sydd oddi fewn i bobl Ddnw. Cadwai yn ei chof bregethau a glywsai pan yn 12 mlwydd oed; ac yr oedd yn hoff iawn o weini ar bregethwyr pan lettyai rhai o honynt yn achlysurol yn nhŷ ei thad.
Cyn ymadael, anogai lawer ar ei pherthynasau digrefydd i ymofyn crefydd dda, ac i beidio ymorphwys ar yr ordinhadau. Darllenai lawer ar lyfrau da, yn enwedig y Beibl, a gweddiai lawer am gael cyrhaedd y "gilfach a glan iddi" - oedd i bechadur yn aberth Crist. Yr oedd yn dra hoff o'r 53 bennod o Esaiah. Daliodd i adrodd y penill hwnw hyd y gallodd yn y "gyfyng olaf awr" -
"Os rhaid myn'd trwy yr afon donog,
Mae Un i dori grym y lli'," a.y.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1863.
MISS. ELIZABETH WYNNE. MARTINSBURGH, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 3ydd, yn Martinsburg, Lewis County, New York, yn 34 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Elizabeth, merch i William ac Ellen Wynne, gynt o Laneistyn, Lleyn, sir Gaernarfon. Gogledd Cymru.Bu yn wael am 20 o flynyddoedd, ond yn hynod siriol a dirwgnach bob amser. Yr ydoedd wedi ei chynysgaeddu a chyneddfau cryfion. Yr oedd ganddi rai darnau o bregethau yn ei chof er pan yn 12 oed. Un ufudd ydoedd i'w rhieni bob amser, yn ofalus am eu cysur. Byddai gweinidogion yr efengyl yn arfer â lletya gyda ei rhieni dros lawer o flynyddoedd; dywedai y byddai yn dda ganddi wneud rhyw gymwynas iddynt a chyfrifai yn wir fraint i gael estyn cwpanaid o ddwfr i ddisgybl Crist.
Un hoff o ddarllen ydoedd, darllenodd lawer ar y Beibl a llyfrau da eraill - y Beibl oedd ei phrif lyfr, ac ynddo yr oedd yn cael ei chynal y dyddiau a'r oriau olaf y bu fyw. Myfyriai lawer uwchben y 53 o Esaiah, am y "dryllio" a fu arno Ef. Cynghorai lawer ar ei pherthynasau y rhai oedd heb grefydd, i ymofyn am dani a pheidio ag ymorphwys ar yr ordinhadau allanol, ond myned trwy bob peth at Grist. Byddai yn teimlo yn fawr am nad oedd yn byw mewn ardal y gallai gael cymdeithas a phobl yr Arglwydd. Nis gallwn ninau ond gofidio heddyw yn yr achos, gan gysuro ein hunain a'r sicrwydd a gawsom ei bod wedi rhoì ei hunan i'r Arglwydd.
Daeth lluaws mawr i'w chladdedigaeth. Mr. G. W. Griffiths yn gweddio cyn cychwyn; awd a'i chorff at berthynasau iddi yn mynwent y T. C. yn Penygraig, Remsen, y brawd Eben Salisbury yn pregethu ar yr achlysur.
Daliodd i ddweyd y penill hwn tra gallodd :-
Os rhaid mynd trwy'r afon donog
Mae un i dori grm y lli,
Iesu'r Archoffeiriad ffyddlawn
Dyma ddigon byth i mi,
Yn ei waed caf waeddi concwest
Ar angau uffern byd a'r bedd
Tragwyddloldeb byth heb bechu
Yn ogoneddus ar ei wedd.
Ei thad, WlLLIAM WYNNE.