MR. OWEN CHARLES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab Richard Charles (1756-1829) a Jane Roberts o Cae Newydd, Bryncroes.

Ganwyd mab i Richard a Jane ac fe'i bedyddiwyd yn Owen Richard ar 1af o Ebrill 1782, ond bu farw cyn ei fod yn flwydd oed. Ganwyd mab arall iddynt a chafodd ei fedyddio yn Owen Richard ar 4ydd o Fai, 1783. Y plentyn yma aeth i America.

Priododd Owen i'r teulu brenhinol. Roedd ei briod Eleanor Jones Prichard o Ynys Enlli yn perthyn i Love Prichard, brenin olaf Enlli. Priodasant yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 22ain o Fai 1813.

Ganwyd iddynt dri o blant tra yng Nghymru,
John Owen 1814-1850
Richard Owen 1815-1904
Mary Ann 1817-1864

Ymfudodd y teulu i America yn 1818.

Glyn Roberts ~ Gorffennaf 2021.


MR. OWEN CHARLES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 26ain, 1864, yn Steuben, o'r parlys, yr henafgwr, Owen Charles, yn 81 mlwydd a 7 mis oed.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1864.