MRS. ANN DAVIES. COVINGTON, KENTUCKY.

Meheíin 14eg, 1864, yn Covington, Kentucky, Mrs. Ann Davies, tua 75 mlwydd oed. Meddylia rhai ei bod yn hynach.

Ganwyd hi mae yn debygol yn Caernarfon; bu ei rhieni yn byw yn Llanberis, Sir Gaernarfon, ac yn Trerddol, Sir Aberteifi.

Hi a fu amryw flynyddau yn Llanelli, Brycheiniog, ac yn Siloam, Llanelli yr unodd â chrefydd tua 55 o flynyddau yn ôl.

Daeth i'r wlad hon yn 1852; bu am beth amser yn Pittsburgh, Pennsylvania, ac yn Wheeling, Virginia.

Ni chafodd ond ychydig iechyd y 6 blynedd olaf o'i hoes, a bu yn gorwedd tua y tair blynedd diweddaf o'i gyrfa. Cafodd ei hymgeleddu yn dda gan ei merch, Mrs. Rebecca Williams, a bu Edward ei mab yn dda iddi. Yn amser ei chystudd maith bu yr ysgrifenydd a'r Parch. H. Powell (M. C.) yn darllen ac yn gweddio gyda hi ddegau os nid ugeiniau o weithiau. Yr ydoedd yn meddu cysuron crefyddol yn helaeth; a dymunai am gael ei gollwng yn rhydd, fel y gallasai fyned i dderbyn ei choron.

Mehefin 15fed claddwyd ei gweddillion yn Covington, Kentucky, a gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y brodyr T Edwards a H. Powell. Ni a ddymunem i'r farwolaeth hon fod dan fendith Duw yn foddion i gael ei phlant sydd ar ei hol i geisio crefydd yn fuan, fel y gallant obeithio ar sail dda gael ei chyfarfod yn y bore olaf ar ddeheulaw y Barnwr.
T. EDWARDS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1864.