MRS. ELIZABETH DAVIES. LONG CREEK, IOWA.

Hydref 12fed, 1864, yn Long Creek, Iowa, Mrs. Elizabeth Davies, yn 62 mlwydd oed. Yr oedd y drengedig yn enedigol o ardal Penal, Sir Feirionydd. Nid yw yn debygol iddi gael nemawr o fanteision crefyddol yn nyddiau ei hieuenctyd, yr hyn yn ddiau sydd yn un o'r colledion mwyaf pan mae y meddwl yn ymagor a'r cymeriad yn cael ei ffurfio. Yn y flwyddyn 1831, ymbriododd ag un Mr. Evan Davies, o'r un gymydogaeth, ac aethant i fyw i le o'r enw Cefncynhafal, lle buont yn cartrefu hyd eu symudiad i'r wlad hon.

Y flwyddyn yr ymunodd mewn priodas a'i gwr, ymunodd y ddau ag achos crefydd, ac o hyny allan ymroddodd i geisio Arglwydd Dduw Israel, gyda'r hwn orchwyl y glynodd yn ddyfal hyd angau, er fod cryn lawer o anfanteision ac anhawsderau ar ei ffordd.

Tua deuddeg mlynedd yn ol, ymfudodd y teulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn ardal Long Creek, a bu Rhaglaniaeth y nef yn dyner a ffafriol tu ag atynt o barth amgylchiadau tymhorol. Yr oedd Mrs. Davies yn hynaws a charedig yn ei theulu, ac addfwynder gwastadol yn ei thymer tuag at bawb, heb wg yn eistedd ar ei gwedd un amser. Yr oedd ei hymddygiadau gwastadol yn ddangosiad fod "cuddiedig ddyn ei chalon" mewn anllygredigaeth, ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr.

Bu iddynt wyth o blant, chwech o feibion a dwy o ferched, saith o ba rai sydd yn fyw ac yn grefyddol.

Fel mam, yr oedd ganddi ddylanwad cryf ar ei phlant. Yr oedd yn ganolbwynt ag oedd yn tynu serch y teulu oll ati, yr hyn yn ddiau sydd nodwedd tra dymunol, a byddai yn dda pe byddai mwy o hono mewn llawer teulu.

Fel Cristion, yr oedd yn hoff iawn o foddion gras, hyd y gallodd eu dilyn. Yr oedd yn ddyfal beunydd wrth y drysau, ac yn gwarchod wrth byst y pyrth, ac ymdrechbai i feithrin y syniad fod gwerth mewn moddion yn meddyliau ei phlant. Nid oedd gan y Methodistiaid achos yn yr ardal hon pan ddaeth y teulu yma, ac nid rhyw gartrefol iawn a fu ein chwaer o ran ei meddwl gyda phethau crefydd, hyd nes y caed un; ac nid anfuddiol coffau ei bod yn un o'r naw a fu yn ddigon gwrol i ddechreu achos perthynol i'r enwad hwnw yn yr ardal hon dan raddau mawr o anfanteision.

Er nad ymgodai ryw lawer o ran profiad uwchlaw graddau o amheuaeth, nid yn aml y safai ar uchel fanau sicrwydd ffydd, eto yr oedd bob amser yn ymroddi i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, gan bywso ar Aberth y Groes fel sylfaen cymeradwyaeth gyda Duw; ac mae yn debyg mai dyma elfen hanfodol gwir grefydd, sef ymwneyd beunyddiol a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei berson a'i aberth, fel yr "Hwn a osododd Duw yn Iawn i ddangos ei gyfiawnder ef mewn maddeuant pechodau," gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol.

Nid oedd rhyw lawer o hynodrwydd allanol yn perthyn iddi, ond yr oedd ei chrefydd yn ymddadblygu fel yr had yn tyfu, yn ddistaw, ac fel ei Blaenor, yr hwn ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol. Yr oedd cryn lawer o addurniadau crefydd ysbrydol, tebygrwydd ysbryd i Dduw yn perthyn iddi. Ond ei dyddiau hithau a nesasant i farw.

Tua blwyddyn yn ol cafodd brofedigaeth chwerw trwy farwolaeth mab yn y fyddin yn agos i Vicksburg; effeithiodd hyn arni fel y gwaelodd ac yr ymolryngodd o ran ei hysbryd oddiwrth y byd a'i bethau - meddyliai, a soniai lawer am y cyfnewidiad ag oedd o'i blaen. Yr oedd "beunydd yn marw," ac fel wedi ymfudo o ran ei meddwl i'r byd a ddaw. Ryw bryd tua chanol yr haf diweddaf, ymaflodd y Dysentery ynddi, ac er yr ymddangosai ar brydiau yn gwellau, eto ni ollyngodd yr afiechyd ei afael o honi nes troi yn angeu iddi. Bod Iesu Grist fel maen wedi ei osod yn Seion yn sylfaen safadwy, yn gadernid i bwyso arno: dyma oedd yn cynnal ei meddwl yn awr angau a mynych yr adroddai y penill hwnw :

"Hyn yw'm hangor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw,
Fe addawodd na chawn farw,
Yn nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw."

Bu yn proffesu crefydd am 31ain o flynyddoedd. Dranoeth daeth lluaws yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi, a dodwyd ei gweddillion i orwedd wrth gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y lle uchod, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan ysgrifenydd hyn o linellau.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1865.