MR. THOMAS DAVIES. DUNDAFF, PENNSYLVANIA.
Mawrth 24ain, 1864, yn ardal Dundaff, Pennsylvania, Mr. Thomas Davies, yn 61 mlwydd oed.Yr oedd Mr. Davies yn byw yn yr hen wlad mewn lle o'r enw Ty'n y ffordd. ger Corwen, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei deulu 11 mlynedd yn ôl, 9 o ba rai a dreuliodd yn Summit Hill, Swydd Carbon Pennsylvania, a'r gweddill yn ardal Dundaff.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn hynod o serchus a chymydogol, yn ddyn o foesau da; arferai ymddwyn yn barchus iawn tuag at bethau cysegredig. Siaradai yn aml am grefydd a chrefyddwyr, a phob arnser yn barchus.
Dangosai lawer o deimladau o dan y gair ac yn y moddion cyhoeddus. Buom yn dysgwyl lawer gwaith, yn ystod y tymhor byr y bu yn ein mysg, ei weled yn ymuno â phobl yr Arglwydd, gau wneud proffes gyhoeddus o Fab Duw, ond cawsom ein siomi yn hyn.
Ni chafodd ond byr gystudd. Ei glefyd oedd y typhoid fever, a hwnw y mae yn debyg o'r fath waethaf.
Gadawodd ar ei ôl weddw a saith o blant mewn dwys alar.
Claddwyd ef yn mynwent Dundaff. Gweinyddwyd ar amgylchiad y claddedigaeth gan weinidog y lle.