MRS. CATHERINE EDWARDS, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Chwefror 2ail, yn French Road, plwyf Steuben, Mrs. CATHARINE EDWARDS, anwyl briod William Edwards, o'r ardal uchod, yn 69 mlwydd oed.Claddwyd hi yn French Road a gweinyddwyd gan y brodyr E. Salisbury a M. Roberts.
Yr ydoedd y chwaer bon yn ferch i hen bregethwr o'r enw William Daniel, gŵr duwiol a ffyddlon yn ngwinllan ei Arglwydd, yn mysg y T. C. yn Lleyn sir Gaernarfon Bu iddo 12 o blant, 8 o ferched a 2 fab; 2 o'i ferched a'i blaenasant ers blynyddau i'r byd mawr, a'r gweddill sydd yn aros; 6 ohonynt yn ei chladdu ac un yn rhy bell yn Wisconsin i allu cael y fraint.
Mudasant i'r wlad hon yn 1817, a sefydlasangt yn fuan pan oedd yr ardal yn goed i gyd, ar y lle y buont byw yma ac y buodd hithau farw; ei marw hi oedd y marw cyntaf yn eu tŷ, buodd y merched farw oddicartref. Yn rhyw fodd, er ei magu ar fronau crefydd yn ieuanc, a bod y pryd hyny yn amser cryf yn ei ddylanwad crefyddol, er hyny oedodd hi i wneud proffes o grefydd (er y dangosai barch mawr i grefydd ei holl oes) hyd o fewn ychydig o flynyddau yn ôl, pryd y torodd drwodd i arddel Iesu ac ymuno ag achos a pbobl Dduw yn Bethel. Ac ymhen ychydig dymor dechreuodd amharu yn ei hiechyd, a buodd am faith amser dan yr amhariad, sef y Parlys, ac o darawiad i darawiad daeth y diwedd, a gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd.
Cafodd y fraint o weled ae phlant oll yn proffesu crefydd. A'r dymuniad mawr oedd ac ydyw, i'w hanwyl briod sydd ar ôl, yn galaru ei golled ar ei hol, yn ei unigrwydd a'i ymddifadrwydd o honi, ymofyn am Iesu yn rhan a chyfaill iddo.