MISS. ELIZABETH EDWARDS. SALEM, COLUMBUS, WISCONSIN.

Merch ydoedd Elizabeth Edwards i John a Mary Edwards, gynt o Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn awr o ardal Salem, Columbus, Wisconsin.

Bu farw Hydref 11eg, 1864, yn 22 flwydd a 10 mis oed. Claddwyd hi yn mynwent Salem, y Parch. Mr. Cook (B.) yn gweinyddu.

Ei hafiechyd ydoedd y typhoid fever.

Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol. Yr oedd yn gyflawn aelod yn eglwys Salem er ys blynyddau. Tynodd ei chwys yn uniawn i'r pen, heb fylchau ymddangosiadol ynddi. Bu yn ffyddlon hyd angeu - hyderwn ei bod wedi derbyn coron y bywyd. Un o dymer siriol ac o duedd efrydgar ydoedd. Yn nechreu ei chystudd yr oedd yn ddifyr iawn bod yn ei chymdeithas, gan ei bod yn mwynhau yn helaeth o gysuron crefydd bersonol. Byddai gwawr bywyd yn llewyrchu ar ei meddwl nes y byddai yn tori allan mewn gorfoledd, a diolch am drefn iachawdwriaeth.

Dywedai am Iesu Grist mai ei Brawd a'i Chyfaill goreu ydoedd, a'i bod yn ymwrthod a phob peth er ei fwyn, ac yn ymfoddloni i'w drefn. Yr oedd yn teimlo yn gynhes at achos yr Arglwydd, ac yn dymuno ei lwyddiant. Gweddiai dros ei theulu, bob un o honynt wrth eu henwau, - dros eglwys Salem hefyd, yn enwedig yr ieuenctyd; a chofiai am y byd sydd yn gorwedd mewn drygioni, mewn dymuniadau taerion am i'r Arglwydd ymddangos i'w achub. Nid dros ei chenedl ei hun yr oedd yn teimlo, ond dros holl genedloedd y ddaear. Un tro yr ymwelais â hi, coffaodd am yr hen genedl nodedig sydd ers hir amser bellach yn nghadwen annghrediniaeth, mewn dymuniad hiraethlawn am i Dduw ei dychwelyd a'i himpio drachefn yn ei holewydden ei hun.

Yn ei dyddiau olaf yr oedd ei chlefyd wedi ei dyrysu gymaint, fel nas gellid ymddibynu ar ond ychydig a ddywedai. Yn y modd hwn machludodd ei haul ganol dydd; er cymaint o afaelion oedd ynddi, hi a ddiangodd. Yn fuan fuan, byddwn ninau wedi rhodio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelwn. Gan hyny ymofynwn am bob parodrwydd i'r daith. "Ni frysia yr hwn a gredo."
D. R. WILLIAMS.

Mae angen gelyn creulawn
Yn tramwy trwy ein gwlad,
A chlwyfo mae yn fynych
Deimladau mam a thad,
Wrth fyn'd a'n hoff anwyliaid
I oer briddellau'r glyn,
Ond nid oes dim i'w ddywedyd,
Ti Arglwydd wnaethost hyn.

Y'mhlith yr holl ieuenctyd
A ga'dd eu tori i lawr,
Mae genyf un i'w choflo
Mewn prudd-der yma'n awr,
Elisa Edwards anwyl,
Yn mysg ei cheraint gwiw,
Ond cafodd ergyd marwol
Ac aeth o dir y byw.

Ei hoff rieni hawddgar,
Sydd heddyw'n brudd eu bron,
Wrth goffo fel y byddai
Yn rhodio o'u blaen yn llon,
Ei thad a'i mam sy'n wylo
Ac yn och'neidio'n ddwys,
Wrth feddwl fod Elisa
Yn gorwedd dan y gwys.

Fy ffyddlon fwyn rieni,
Nac wylwch ar fy ol,
'R wyf heddyw gyda'r Iesu
Yn gorphwys yn ei gôl,
Ni ddichon saethau angeu
Wneud niwaid i mi mwy,
Fy ngwaith am dragywyddoldeb
Fydd canu am farwol glwy'.

Gan hyny ymdawelwch,
A chofiwch hyn bob awr
Mai teithwyr ydych chwithau
I dragywyddoldeb mawr,
'Mofynwch am y Cyfaill
A'ch cynal yn y glyn,
Fel caffom byth gydfoli
Mewn hedd ar Seion fryn.
UN O'I HOFF BERTHYNASAU.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1865.