MRS. LAURA EVANS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 8fed, 1864, Mrs. Laura Evans, gweddw Mr. Evan Evans, diweddar o Remsen.Merch ydoedd i John Owen. Plas Llangwnawdl, Lleyn, sir Gaernarfon.
Yr ydoedd yn proffesu enw Crist gyda y T. C, ers llawer o flynyddau; a bu farw a'i phwys ar y Gwaredwr mawr, wedi dyoddef cystudd trwm am amryw wythnosau, a chyraedd yr oedran o 63 mlwydd.
Pan yn ei chystudd derbyniodd y newydd galarus o farwolaeth ei mab Henry yn y fyddin. Bu ef farw yn yr ysbytty yn Beaufort, S. C.
Cafodd bob ymgeledd a chysur oddiwrth ei merched a'i chymydogion. Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan y brodyr John D. Jones, M. Roberts a Thomas Thomas.