MR. RICHARD EVANS. GOMER HILL, TURIN, NEW YORK.
Mr. Richard Evans, Gomer Hill, Turin, New York. Richard Evans oedd fab i Evan ac Ann Evans, Nant Hir, Gartheiniog, plwyf Mallwyd, sir Feirionydd.Ganwyd ef yn y flwyddyu 1818, a threuliodd ei amser yn Nghymru hyd y flwyddyn 1852. Yn ngwanwyn y flwyddyn hono ymfudodd i'r wlad hon, a chartrefodd gyda ei chwaer a'i phriod yn yr ardal hon, ac ymunodd ag eglwys Nebo. Un o blant tangnefedd oedd yn mhob man, dim absen am neb, a mynych y dywedai yn y gyfeillach grefyddol nad oedd dim yu talu ei ffordd yn well na chrefydd, ac na fu erioed yn edifar ganddo ymuno â chrefydd. Y 24ain o Ragfyr diweddaf yr oedd yn y gyfeillach grefyddol yn od ar bob tro arall. Yn ei fywyd yn ddiau yr oedd yn llawenydd i angylion, yn syndod i ddynion, yn ddychryu i ddiafol, ac yn anrhydedd i achos ei Brynwr. Yr oedd fel dyn o ran ei deimlad wedi gadael y ddaear a'i holl bethau, ac yn byw yn awyrgylch gwlad yr hedd.
Ionawr 11eg, ymaflodd y tan eiddew heintiol yn ei droed, ac aeth i fyny i'w glun yn fuan. Yr oedd ei frawd yn nghyfraith yn ymddyddan ag ef yn fynych mewn perthynas i'w gyflwr. Yr oedd yn dweyd ei fod yn cael llawer o gysur oddiwrth ei grefydd, îe yn y nos pan fyddai pawb yn tawel huno. Nid oedd yu ofni marw.
Y 29ain o Ionawr ymadawodd y wreichionen fywiol i dangnefedd. Claddwyd ef yn Nghladdfa yr Hill a gweinyddwyd gan y brodyr William D. Roberts a John W. Owens.