MRS. LAURA GRIFFITHS, PROSPECT, NEW YORK.
Mae cyhoeddi bywgraffiadau wedi myned yn beth mor gyffredin fel y mae yn anhawdd iawn eu dwyn i ddigon o ddyddordeb i'r cyffredin i'w darllen, a mwy fyth yw yr anhawsder i'w gwneud yn fuddiol wedi eu darllen. Tardda y diffyg yma o un o ddau le — naill ai diffyg teilyngdod y gwrthrych a gofir, neu ddiffyg athrylith y bywgraffydd. Ac os methiant fydd tynged yr hyn a ganlyn, bydd y bai ar yr ysgrifenydd, oblegyd credwn fod yn y gwrthrych hynodion teilwng.Merch ydoedd Laura Griffiths i Griffith ac Ann Jones gynt o Leyn, Sir Gaernarfon. Daethant i'r wlad hon pan oedd hi yn ieuanc iawn. Treuliodd y blynyddoedd cyntaf gyda ei rhieni yn ardal Penygraig. Wedi iddi ddod i ddechreu ymdaro drosti ei hun bu yn gwasanaethu gyda Mrs. James Owens, ac oddiyno aeth i wasanaeth y Parch. Morris Roberts, ac enillodd iddi ei hun radd dda yn mhob man fel merch ieuanc rinweddol. Ond pa ryfedd? gan mai hen osodiad y Duw digelwyddog yw, Benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.
Pan yn 26 oed, ymunodd mewn priodas gyda William Griffiths, a threuliasant 24 o flynyddoedd yn ngrym yr ymrwymiad hwnw, ac nid oedd un awdurdod yn ddigon grymus i'w dori ond awdurdod o'r byd anweledig. Cawsant fywyd fel lluaws plant dynion, sef aml a blin gystuddiau. Ni welodd Duw yn dda eu cynysgaeddu â phlant o'r eiddynt eu hunain; eto gwnaeth Mrs. Griífiths ei rhan yn magwraeth amddifaid ei brawd, a chafodd fyw i weled claddu tair o honynt a gweinyddodd iddynt yn ofalus hyd y diwedd; ac y mae yn hynod, ni bu yn iach ddiwrnod byth wedi marw Louisa yn Mawrth diweddaf.
Dyoddefodd gystudd trwm am amryw fisoedd, a hyny yn dawel ac ymostyngar i ewyllys Duw; a dyma oedd y man yr ymorphwysai ei henaid arno. "Ac ni chyfargollant byth." Felly ar ffyddlondeb yr hwn a addawodd ehedodd ei henaid i wlad y bythol wynfyd - bu farw yn dawel, Ionawr 29ain, 1864.
Hebryngwryd ei gweddillion i gladdfa Bethel. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Mr. Roberts - heddwch i'w llwch a diddanwch i'w phriod i orphen ei yrfa ar y ddaiar, a nefoedd iddo yntau yn y diwedd.
R. F. JONES.