MISS. ELIZABETH GRIFFITHS. FAIRVIEW, CATTARAUGUS COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 7fed, 1864, Miss Elizabeth Griffiths, yn 25 mlwydd, 11 mis a 4 diwrnod oed.Merch ydoedd i Grifíìth ac Elinor Griffiths, Fairview, Cattaraugus County, Efrog Newydd. Gan fod graddau o adnabyddiaeth wedi bod genym o'r chwaer ieuanc hon am naw mlynedd a haner yn Cattaraugus, a'n bod wedi cael y cyfle i ymweled â hi yn fynych yn ei misoedd diweddaf rhoddwn ychydig o'i hanes.
Hi oedd yr ieuangaf o wyth o blant, ac fel y cyfryw hi oedd megys Benjamin fychan y teulu. Hi hefyd oedd nod cyntaf saethau angau yn y teulu uchod. Yr oedd wedi cael ei dwyn i fyny o'i mebyd ar aelwyd grefyddol, ac yr oedd yn un o rodiad diargyhoedd bob amser; ond bu heb arddel y Gwaredwr trwy broffes gyhoeddus hyd yr adfywiad 5 neu 6 blynedd yn ôl; pryd hyny llwyr ymroddodd i godi y groes a dilyn Iesu trwy glod ac anghlod hyd y diwedd, ac yr oedd hi yn un o'r deugain a dderbyniwyd gan y Parch. James Griffiiths at achos y Gwaredwr yn Cattaraugus, a pharhaodd hyd y diwedd i rodio yn addas i'r efengyl, a'i diwedd oedd mewn tangnefedd.
Tua diwedd Tachwedd neu ddechreu Rhagfyr diweddaf daeth hi a'i chwaer hynaf i dalu ymweliad a'u brodyr yn Oshkosh. Gadawsant eu cartref yn hyfryd a chysurus, nid hir y parhaodd felly arnynt, oblegid cadd Elizabeth anwyd trwm ar y ffordd wrth ddyfod, fel yr oedd i raddau yn wael cyn dyfod yma. Gwellhaodd am beth amser o hyny, ond buan y cymerwyd hi eilwaith yn glaf gan y lung fever, yna gan y darfodedigaeth. Yr oedd ei misoedd diweddaf i raddau yn siomedig iddi, eto treuliodd y misoedd hyny yn dawel a dirwgnach, gan addef mai ewyllys ei Thad oedd ei chystuddio a bod yn ddyledswydd arni ymostwng i'r ewyllys hono. Yr oedd wedi darllen llawer ar y Beibl a theimlai i raddau yn ofidus am bob adeg a esgeulusodd i ddarllen y Beibl - addefai ei bod yn cael cysur mawr yn ei chystudd trwy fyfyrdod ar yr hyn a ddarllenodd.
Pan ddywedwyd wrthi nad oedd gan y meddyg ddim yn rhagor i wneud er ei gwellhad, ac nas gallai fyw ond dros enyd fer yn hwy, derbyniodd y newydd gydag ysbryd tawel a digyfFro a dywedodd am i'w brodyr ddanfon at ei thad a'i mam am beidio dyfod i'w gweled am y byddai hi wedi croesi yr afon cyn y gallent ddyfod yma. Trefnodd amryw bethau, a dywedodd i bwy yr oedd ei dillad i'w rhoi ac â pha beth y gwisgid hi i'w rhoi yn ei choffín, a dymunai am i un o'i brodyr fyned gyd a'i chwaer i ddanfon ei chorph i Cattaraugus i'w gladdu.
Yr oedd y pethau hyn yn dangos hunan feddiant a thawelwch ei hysbryd yn wyneb marw. Yr oedd yn cofio am eglwys Carmel - cofiai gyda hyfrydwch am felusder cynghorion a thaerineb gweddiau yr hen frodyr yno. Soniai am blant y diwygiad y rhai oedd yn cyd ddechreu y daith grefyddol gyda hi, dywedai nas gwyddai pa le yr oedd amryw ohonynt yn awr; ond ei bod hi ar orphen ei gyrfa a myned at ei Thad nefol, a'i bod yn gobeithio cael eu gweled oll yr ochr draw.
Dywedai ychydig ddyddiau cyn marw ei bod yn barod i fyned at ei Thad a'i bod yn awyddus am fyned ato. Gofynwyd iddi, oddiar pa beth y meddyliai fod yr awydd hwnw yn codi, ai oddiar feithder ei chystudd a mawredd ei phoen neu ynte ryw beth arall? Ei hateb oedd, "Canys llawer iawn gwell ydyw." Y Sabboth diweddaf cyn ei marw aethum i'w gweled wrth fyned i'r oedfa ddeg o'r gloch y bore hwnw. Gofynodd a wnawn weddio am i'r Arglwydd ei chymeryd adref - dywedai ei bod yn barod i fyned a bod ei hiraeth yn cynyddu am hyny. Parhaodd i wanychu am rai dyddiau wedi hyny, ond daliodd i fwynhau tawelwch meddwl hyd y diwedd, ac nid oedd yn gofidio mewn perthynas i'w chyflwr ei hun; ond er hyny gofidiai yn ddwys oherwydd cyflyrau eraill yn enwedig ei brodyr, a dyma ei geiriau pan ar lan y glyn, "O na bai William Griffith a John yn ceisio Gwaredwr i'w heneidiau." Dywedodd ddiwrnod neu ddau cyn marw wrth syllu ar yr hyn oedd o'u blaen:
'Rwy'n nesu at ochr y dwr
Bron gadael yr anial yn lân,
Mi glywais am goncwest y Gwr
A groesodd yr afon o'm blaen.
Fel hyn gorphenodd y chwaer ieuanc hon ei gyrfa mewn llawenydd - bu farw yn bell o gy haedd ei thad a'i mam, ond bu farw yn yr Arglwydd, hunodd yn dawel y 7fed o Ebrill, a bore yr 8fed cychwynwyd ei chorph tuag adref i'w gladdu. Aeth ei brawd a'i chwaer a'r ysgrifenydd i'w danfon yno. Cyn cychwyn oddi yma darllenodd a gweddiodd Mr. Neyr un o ddiaconiaid yr eglwys Gynulleidfaol Seisnig yr hwn hefyd yn fynych a ymwelai â hi yn ei dyddiau diweddaf.
Anhawdd ydyw darlunio teimlad y chwaer oedd yn fyw wrth ddilyn corph marw ei chwaer tuag adref, ac y mae yn hawdd i ni farnu ei bod yn dra gwahanol wrth ddychwelyd yn ôl i'r hyn oedd wrth ddyfod yma. Anhawdd hefyd ydyw darlunio ei theimlad ar noswaith y 10fed pan yn myned gyda chorph ei chwaer i dy ei thad a'i mam, a diau genyf pe gallasai ddweyd dim gan wylo y buasai yn dweyd fel hono gynt, "Ni elwch fi Naomi ond gelwch fi Mara."
Claddwyd rhan farwol yr ymadawedig ar y 13eg. Gweinyddwyd cyn cychwyn o'r tŷ gan yr ysgrifenydd Salm 13: 26, a'r Parch; W. Thomas yn Saesneg Preg. 7: 2. Rhoddwyd y corph i orphwys yn y fynwent sydd ar dir Mr. Hugh H. Jones. Dywedwyd ychydig wrth y bedd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. W. Thomas, a gweddiwyd gan y Parch. J. Williams, T. C. Canwyd hefyd cyn ymadael oddiwrth y bedd.
H. PARRY.