MISS MARGARET GRIFFITHS. HAMPTON, NEW YORK.
Bu farw, Mai 6ed, 1864, yn 18 mlwydd oed, Margaret Griffiths, Hampton, New York.Merch ydoedd i John a Margaret Griffiths, gynt o Dyddyn Siarls, Gogledd Cymru. Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth. Er iddi gael hir nychdod a phoen, a rhodio yn hir gyda glan y dwr, eto dygodd ei chystudd hi i lwyr ymorphwys ei henaid ar Iesu Grist, ac i brofi gwirionedd y sylwad hwnw, mai "Gwagedd a gorthrymder ysbryd yw pob peth" dan haul. Perchid hi yn fawr gan bawb o'i chydnabod fel geneth dawel, addfwyn a gostyngedig. Ni wnaeth broffes gyhoeddus o Iesu Grist hyd o fewn ychydig wythnosau i'w marwolaeth, a chafodd y fath olwg ar y Gwaredwr y pryd hyny fel y dywedodd, "Y mae arnaf chwant i'm dattod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw."
Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi Mai 9fed i fonwent Middle Granville gan dyrfa luosog a pharchus. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y lle.