PARCHEDIG DAVID HUGHES, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ganwyd David Hughes, mab Hugh a Jonnett Dafydd, Felin Bodwrdda, Aberdaron yn 1788.Bu am gyfnod yn gweithio gyda'i dad Hugh Dafydd a'i frawd Hugh Hughes ym Melin Bodwrdda.
Bu Hugh Dafydd farw yn 1831 ac yn fuan wedyd ymfudodd David Hughes a'i deulu i'r America. Ar Fai 31ain, 1832 hwyliodd David Hughes a'i deulu ar fwrdd y brig Edward o Lerpwl, a gellir gweld ar y rhestr teithwyr :-
David Hughes 44.
Mrs Ellen neu Helen) Hughes 44.
Hugh Hughes 14.
Mary Hughes 10.
Lowry Hughes 8.
Jane Hughes 6.
Pan yn byw yn Aberdaron 'roedd y teulu yn aelodau ffyddlon gyda'r Wesleaid yng nghapel Bryn Caled, Aberdaron. Ar ôl cyrraedd America yr oedd David Hughes yn ffermio yn Sefydliad y Cymru yn Steuben ac ymhen ychydig cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Wesleaid yng nghapel Sixty yn Stuben ac yna bu yn weinidog yng nghapel Salem, Marcy am flynyddoedd.
Bu David Hughes farw ar 2/1/1864 ac mae ef ac Helen Hughes wedi cael eu claddu ym mynwent capel Salem yn Marcy.