MR. JOHN J. HUGHES. ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 8fed, 1864, yn 32 mlwydd oed, bu farw John J, Hughes, perthynol i Com. I, Catrawd 146, New York Volunteers.Aethant o Rome, N. Y., yn y 5ed Oneida, yn Hydref, 1862. Bu yn ymladd llawer brwydr galed. Mab ydoedd i'r hen bererin John Hughes, gynt o Bryn Moel Uchaf, ger y Bala, G. C, a brawd i Hugh J. Hughes, gynt o Rome, a Mary Pugh, Penygraig, Remsen.
Y 5ed o Fai, 1864, yn mrwydr yr Anialwch, cymerwyd ef a llawer eraill yn garcharorion gan y gelyn, ac yn ôl yr hanes a gafwyd ar bapyr yn ei logell wedi ei farw, deallir ei fod wedi dyoddef caledi mawr. Cymerodd y gelyn bob peth o'u meddiant. Yr oeddynt yn cael eu gyru o'r naill garchar i'r llall, heb fawr o ymborth. Dywed, "Mai 6ed, yn Gordonsville yn cael rations - dim ond dwy cracker ac ychydig beef drwg - dydd a nos heb do uwch ei ben."Ysgrifena, Mai 13eg, "heb yr un tamaid o fwyd ers 3 diwrnod."