MRS. CATHERINE JONES. WESTERN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 25ain, 1864, yn Western. Swydd Oneida, New York, yn 35 mlwydd oed, Catherine, priod Mr. Griffith R. Jones. o'r lle uchod, gan adael priod a bachgen 6 oed, yn nghyd a lluaws o berthynasau i alaru ar ei hol. Cymerwyd hi ymaith yn bur ddisyinwth gan glefyd y galon, er ei bod wedi colli ei hiechyd er's llawer blwyddyn.

Yr oedd yn aelod esmwyth gyda y T C. yn eglwys Floyd. Yr oedd yn ferch i John a Margaret Willìams, o Delta. Daethant i'r wlad hon tua 12 mlynedd yn ôl, o Laniestyn, Lleyn.

Claddwyd hi yn mynwent Western, wrth ochr ei chwaer Margaret. a'i hewythr Humphrey Jones, tad y Parch. John H. Jones, Rome. Daeth lluaws mawr o Gymry a Seison i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. T. T. Evans.
ROBERT R. OWENS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1864.