MRS. CATHERINE JONES. RIDGEWAY, BLUE MOUNDS, IOWA COUNTY, WISCONSIN.

Hydref 26ain, 1864, yn 45 mlwydd oed, yn Ridgeway, ger Blue Mounds, Swydd Iowa, Wisconsin, Catherine, priod Mr. Henry Jones, gynt o Fryn y Castell, Llanllyfni, Sir Gaernarfon.

Ymfudasant i'r wlad hon yn 1860, o Fron Hafod Fawr, Clynnog. Yr oedd y drengedig yn ferch i William ac Anne Jones, Ty Coch, Clynnog, ac yn chwaer i Hugh Jones, Ysw., Llundain.

Cafodd ei magu yn grefyddol o'i mebyd gyda'r T. C, ond deallwn iddi, fel llawer ereill, adael y Tỳ am ychydig ; eto deallodd fel yr afradlon mai newyn mawr oedd yn y wlad bell, a dychwelodd yn bur ebrwydd i ymofyn am le yn mhlith pobl yr Arglwydd. Yr oedd o ran ei pherson yn harddach, ac o ran ei meddwl a'i chyfansoddiad yn gryfach na'r cyffredin, ond hir gystudd a wywodd ac a orchfygodd y cwbl. Bu yn nychu yn anghysurus iawn am dair blynedd a haner, ond dyoddefodd ei chystudd maith yn amyneddgar a thawel; a thystiai yn aml ei bod yn ystyried mai cerydd oedd hi wedì ei haeddu oddiwrth ei Thad nefol oedd ei chystudd maith.

Yr oedd yn ystyried y wialen, a phwy a'i hordeiniodd, ac yn hyderu yn fawr mai yr holl ffrwyth fyddai tynu ymaith y pechod.

Y nos Sadwrn canlynol i'w marwolaeth, ymgasglodd lluaws yn nghyd i hebrwng ei gweddillion marwol i dŷ ei hir gartref. Claddwyd hi yn mynwent yr Annibynwyr yn y gymydogaeth.

Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. Griffith Jones, Blue Mounds, a phregethwyd yn y capel gan yr ysgrifenydd, oddiar Jer. 5: 31 - 'Eto beth a wnewch yn niwedd hyn?' Y mae lle da i obeithio y gwyddai hithau beth i'w wneyd yn y diwedd, a'i bod wedi cael mynediad i wlad lle na ddywed neb o'r preswylwyr, 'Claf ydwyf.'
OWEN R. MORRIS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1865.