MRS. ELEANOR JONES. COLUMBUS, WISCONSIN

Tachwedd 9fed, 18654, ger Columbus, Wisconsin., Eleanor, gweddw-wraig y diweddar Mr. Rowland Jones, Glan'rafon, [am yr hwn gwel y Cyfaill, Mai, 1856,] a chwaer y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yn 74 mlwydd oed.

Tua 6 wythnos cyn ei hymadawiad torodd ei chlun, yr hyn a achosodd ei hangau.

Yr oedd yn aelod egiwysig gyda y T. C. y rhan fwyaf o'i hoes : ymgymerodd â chrefydd yn foreu. Ni honai brofiadau uchel, bucheddai yn lled wastad. Yr oedd yn dra ffyddlon yn ei chylch, dilynai foddion gras yn gyson iawn, ac yn wyneb anfanteision darllenai lawer iawn mwy na'r mawrion cyffredin, a.y. Ychydig a ddywedai yn ei chystudd; dywedai fod ei gofid yn ddigon y pryd hyny, y dylid ymorol am grefydd mewn iechyd. Hyderwn, oddiwrth ei dymuniad a'i llafur gwastadol am y gwir, ei bod yn ddiogel yn y Cywir hwnw.

Ar yr lleg hebryngwyd ei rhan farwol i dŷ ei hir gartref i fynwent Bethel, pryd y pregethodd y Parch. R. Williams, oddiar Job 19. 25.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1865.