MRS. ELINOR JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 30ain, 1864, yn Rome, New York, yn 62 mlwydd oed, Mrs. Elinor Jones, priod Mr. Robert Jones, (adweinir ef gan ei hen gyfeillion, Robert Jones, Enlli,) am mai oddiyno y daethant i'r wlad hon 32 mlwydd yn ôl. Bu yn briod 43 mlwyddyn; mae ganddynt un ferch yn y West.

Mae galar mawr ar galon ei hanwyl briod yn ei hen ddyddiau.

Ei hafiechyd oedd y dropsy. Dyoddefodd gystudd blin am amryw fisoedd, eto yn dawel.

Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd er's 20 mlynedd, yn yr eglwys Annibynol yn Floyd. Symudasant i Rome ers amryw flynyddau. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn yr eglwys Annibynol yn Rome, a theimlir colled fawr ar ei hol. Yr oedd yn un o'r ffyddloniaid. Rhoddodd dystiolaeth glir ei bod yn meddu y rhan dda yr hon na ddygir oddi arni. Gobeithio y caiff ei hanwyl briod ras i ymgynal a'i addfedu i fyned ar ei hol.

Claddwyd hi yn y fynwent rhwng Floyd a Rome, lle mae claddfa y Cymry yn gyffredin yn y cylchoedd hyn. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan yr ysgrifenydd.
D. E. PRICHARD.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1864.