MRS. ELIZABETH P. JONES. PENYMYNYDD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Chwefror 27ain, 1864, yn Mhenymynydd, Steubon, ar ôl llai na phythefnos o gystudd, Mrs. Elizabeth P. Jones, gweddw y diweddar William P. Jones, yn yr oedran mawr o 93 mlwydd a 4 mis.Yr ydym dan brofedigaeth o roi math o Gofiant lled faith am y chwaer anwyl a ffyddlon hon; ond gan y byddai yn ei bywyd yn arwyddo dymuniad na byddai nemawr yn cael ei ddweyd am dani ar ôl ei hymadawiad, rhaid ymatal. Dywedai, "Peidiwch dweyd dim ond fy mod wedi marw - bydd hyny yn llawn ddigon."
Merch ydoedd i Humphrey ac Elinor Thomas, Peiswyn, (Cilan} plwyf Llanengan, Arfon. Daeth drosodd i America gydag ewythr iddi yn ngwanwyn y flwyddyn 1794, yn 23 oed. Yn y flwyddyn 1795 ymdaenodd y clefyd melyn (yellow fever) am y waith gyntaf yn New York. Cafodd hithau a chwaer iddi y clefyd - bu ei chwaer farw, cafodd hitliau fyw a gwellhau.
Ymunodd mewn priodas â Mr. William P. Jones yn New York (y Parch John Williams yn gweinyddu) Medi 9fed, 1797, a daeth i fyny gyda ei phriod i Steuben y flwyddyn hono. Buont yn byw ychydig flynyddau ar dir a feddiannwyd wedi hyny gan y Dr. Daniel Roberts, yna symudasant i'r lle a brynasant yn Mhenymynydd, lle y treuliasant flynyddoedd maith eu hymdaith, ac y bu iddynt deulu lluosog.
Derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys yn y Gapel Ucha', Steuben, tuag amser ffurfiad yr eglwys bono, a pharhaodd ei chysylltiad yno, ac yn eglwys Penymynydd o'i ffurfiad cyntaf hyd ei hymadawiad. Yr oedd yn ddiwyd a llafurus yn ei hamgylchiadau. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen, a darllenodd lawer - yn ddiysgog yn ei hymlyniad wrth ei hegwyddorion a'i phroffes - yn ffyddlon i'w chydgynulliad - yn un dirion a gwasanaethgar yn ei chymydogaeth - yn anwyl yn ei theulu ac yn yr eglwys. Gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd.
Claddwyd hi yn mynwent Penymynydd wrth ochr ei phriod, a gweinyddwyd gan y brodyr M. Roberts a R. Everett.