MRS. ELIZABETH JONES. LEATHERWOOD, PUTNAM, OHIO.
Hydref 8fed, 1864, bu farw Mrs. E. Jones, priod Mr. Thomas R. Jones, Leatherwood, Putnam, Ohio.Merch ydoedd i Morris a Mary Williams. Adnabyddir ei thad a'i mam yn well gan eu cyfeillion yn Nghymru ac yn y wlad hon wrth Morris Williams, Ca'rffridd, Llandwrog, a Mary Williams, Ca'rweddus, Llanryg, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Bu ei rhieni yn aros yn Remsen, swydd Oneida, New York, ar ôl iddynt ddyfod i'r wlad hon, ac yno ganwyd ein hanwyl chwaer, Elizabeth, Chwefror 5ed, 1830. Felly yr oedd onid pedwar mis yn 35 mlwydd oed pan fu farw. Pan oedd Elizabeth yn dair blwydd oed, symudodd ei rhieni o swydd Oneida i fyw i Ohio.
Deallwn ei bod hi wedi bod yn gysur mawr a llawer o gymhorth iddynt yn nechreuad eu bywyd teuluaidd yn y wlad hon. Yr oedd ei ddiwydrwydd gyda ei gorchwylion, ei hufudddod parod a siriol, a'i gofal parhaus am eu cysur a'u llwyddiant, yn rhoddi hawl iddi i'r anrhydedd o fod yn ufudd i'w rhieni. Derbyniodd argraffiadau crefyddol ar ei meddwl yn ieuanc.
Cafodd ei thad a'i mam y fraint o'i gweled yn "dwyn yr iau yn ei hieuenctyd;" derbyniwyd hi yn aelod eglwysig pan yn 11 oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd angeu.
Ymunodd mewn priodas gyda Mr. Thomas. R. Jones, Mawrth 1af, 1850. Cawsant bump o blant, pedwar mab ac un ferch, pa rai sydd yn awr mewn hiraeth a galar ar ôl eu hanwyl fam, yr hon oedd yn fam mewn gwirionedd.
Megys yr enillodd "air da" fel plentyn ufudd, yr un modd enillodd yr anrhydedd o lanw ei chylch teuluaidd fel priod tyner a gofalus - a mam dirion ac ymgeleddgar, tu hwnt i'r cyffredin, a gellir dweyd, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Ond yn fwy na'r cyfan, cynyddodd mewn crefydd a duwioldeb, cyrhaeddodd brofiad uchel fel Cristion, enwogodd ei hun yn mhlith ei chyfeillion a'i chyfeillesau fel un yn gwasanaethu yr Arglwydd o'i mebyd.
Ei chlefyd diweddaf oedd y typhoid - tua thair wythnos bu mewn cystudd dwys, ac yn aml dan boenau mawr; ond ymollyngai yn dawel i law ei Thad nefol, a hyfryd oedd ei gwrando yn canmol, ac yn diolch am grefydd a'i chysuron - am Gyfaill a Gwaredwr pan oedd cysuron a chyfeillion daear yn methu. Crybwyllai yn gynes am y cyfeillion anwyl oedd wedi blaenu - y gwleddoedd a'r dedwyddwch oedd yn nhŷ ei Thad, nes oedd y cyfeillion a'r chwiorydd oedd gyda hi yn ei horiau olaf yn teimlo yn ddedwydd, gan gredu pan groesodd Elizabeth hen afon donog marwolaeth, iddi gyrhaedd yn ddiogel dŷ ei Thad, ac etifeddu yr addewidion i'w mwynhau byth, lle na all gelyn na gofid ei blino mwy.
Claddwyd hi yn barchus yn mhlith teulu distaw mynwent fach y Cymry sydd yn agos i'r lle. Gweinyddwyd wrth y tŷ gan Mr. Christian Steaman yn Saesoneg, ac wrth y bedd gan un o aelodau'r eglwys; a phregethodd Mr. Steadman ei phregeth angladdol y Sabboth canlynol yn addoldy Bethel, yn deimladwy ac addysgiadol. JOSIAH JONES.