WILLIAM JONES, PENYGRAIG, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 22ain, yn Penygraig, Remsen, Efrog Newydd, o'r gwddf-bydredd, yn 74 mlwydd oed, bu farw yr hen bererin, WILLIAM JONES; mab ydoedd i John and Mary Jones (Ysgaw Bach) Llanfaelrhys, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1818.

Ymbriododd ag Elinor Davies yn y flwyddyn 1832. Bu iddynt ddeg o blant, 8 o ba rai sydd heddyw yn fyw. Ymunodd a chrefydd yn y flwyddyn 1847 a pharhaodd yn ffyddlawn hyd y diwedd, ei ofid mawr oedd na fuasai wedi dechreu yn gynt. Yr oedd yn dad a phriod tyner, ac yn gymydog o'r fath oreu. Byddai pan elwid ef i weddio yn y cyfarfod gweddi fel yn cael thyw ollyngdod - yr oedd yn hawdd gwybod ei fod yn awyr y nef. Oddeutu blwyddyn yn ôl bu tro nodedig yn ei feddwl - pan ar ei liniau yn y capel yn gweddio tybiai fod rhyw un yn dweud wrth, "Ni chollir mo honot byth." Coffhai am y tro yn y Society ar ôl hyny, ac wrth gyfeillion amryw droion. Yr Arglwydd a fyddo yn llon'd ei addewid i'r weddw yn ei thrallod a'i chyfyngder - ac i'w blant amddifad - ac a godo ryw rai i lanw y cylchau sydd yn cael eu gwneud yn eglwys Pencraig.

Ni bu ef yn cwyno ond saith diwrnod. Cafwyd meddyg, ond y cwbl yn ofer. Bu farw.

Claddwyd ef yn mynwent Penygraig - gweinyddwyd i dyrfa o gyfeillion galarus gan y brodyr Evan Morris, Morris Roberts, ac Ebenezer Salisbury.

Y CENHADWR AMERICANAIDD ~ Mehefin 1864.