MR. WILLIAM EDWARDS, DEERFIELD, EFROG NEWYDD.
Yn Deerfield, C. N., Tachwedd 17, 1842, William, mab John ac Eleanor Edwards, gynt o Smith Hill.Ymfudasant i'r wlad hon oddeutu 24 o flynyddau yn ol, o blwyf Llangower, swydd Feirionydd.
Cafodd William ei gymeryd ymaith yn mlodau ei ddyddiau, yn 24 oed, wrth ychydig rybydd. Nid oedd yn mwynhau iechyd da trwy yr haf diweddaf; bu yn gweithio rhan o'r haf; bu ychydig amser gyda'i dad a'i fam islaw Utica; daeth i ymweled a'i frawd, Robert Edwards, Smith Hill, Deerfield; bu yno ddwy noswaith; yr oedd yn cwyno oherwydd poen yn ei ben yn gyffredin; ond nid oedd neb yn meddwl ei fod mor agos i fyd arall; daeth i ymweled a'i frawd nos Fawrth; bu farw boreu dydd Iau, tuag 11 o'r gloch.
Bwytaodd ei foreufwyd, ac aeth i orphwys ar y gwely; a chwynai fod ei draed yn oerion; rhoddwyd gwlanen gynes am ei draed, ac ymollyngodd i gysgu; aeth y forwyn i'w ystafell yn mhen ychydig amser, ac adnabu ei fod gwedi marw!
Nid oes genym fawr i'w ddweyd gyd a golwg ar ei deimladau, bu ryw ychydig amser gyda chrefydd ; gwelais ef yn Nghaerefrog Newydd dechreu yr haf diweddaf; ac yr oedd am gael dyfod i'r gyfeillach grefyddol at y brodyr yno; bu yn y gyfeillach rai gweithiau yr wyf yn meddwl, ond nid arosodd yno mae yn debygol ond ychydig amser.
Dyma rybydd difrifol i Ieuenctyd i fod yn barod, "Yn yr awr ni thybioch" y daw yr alwad.
Dydd Sadwrn casglodd tyrfa fawr i gludo ei ran farwol i fynwent Salem, Deerfield. Pregethwyd ar yr achlysur gan S. A. Williams, a gadawyd ef yn ei wely pridd hyd y codi cyffredinol.