MRS. CATHERINE MORGANS. LONG CREEK, IOWA.

Medi 8fed, 1864 yn ardal Long Creek, Iowa, bu farw Catharine, gwraig John Morgans, o'r ardal a enwyd, yn 63 mlwydd oed.

Ymfudodd y teulu o Gymru yn y flwyddyn 1844. Arosasant am dro yn nhalaeth New York. Wedi hyny yn Ohio, a daethant i Iowa tua diwedd 1845. Buont yn byw yn Sefydlfa Long Creek yn dawel a chysurus a hyny hyd nes yr hunodd yr hen wraig yn yr Iesu, gan adael yr hen ŵr a'r plant i alaru ar ei hol. Oddeutu dwy wythnos y bu yn glaf y tro diweddaf. Mynych ergyd a gafodd gan afiechyd, ond cafodd y fraint o fod yn ddirwgnach a ffyddiog drwy y cwbl.

Yn Pennal Meirionydd a'r ardal, yr oedd y teulu wedi byw yn barchus a chrefyddol yn yr hen wlad. Yr oeddynt yn perthynu i eglwys y Wesleyaid yno; a byddai eu tŷ yn gartref i weinidogion a phregethwyr yr efengyl bob amser. Calon hael iawn oedd gan yr hen chwaer anwyl, nid oedd dim yn ormod ganddi i'w wneyd i achos Iesu yn yr hen wlad ac yn y wlad hon.

Ymadawodd â'r byd hwn pan yr oedd ein Cymanfa flynyddol wedi dechreu ar y Flint. Mawr oedd ei hawydd i fwynhau gwasanaeth y Gymanfa ar Long Creek, a bod yn bresenol ar agoriad ein Capel newydd, ond cafodd fyned i Gymanfa well o lawer iawn, a myned i fwynhau gwasanaeth mwy godidog yn y wlad lle "ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf." "Gwel, Seion, dinas ein cyfarfod; dy lygad a welant Jerusalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynir i lawr, ac ni syflir un ö'i hoelion byth, ac ni thorir un o'i rhaffau." Es. 33: 20.

Ffyddlawn iawn ydoedd Mrs. Morgans i fod yn moddion gras, a melus ei chyfrinach yn y Society. Yn ei chlefyd, pan wedi colli cydnabyddiaeth am bawb a phob peth daearol a'i hamgylchai, ei henaid a adwaeni y Cyfaill a lyn yn well na brawd na phriod na phlant. Molianu a bendithio yr Iesu a wnai, a'i dwylaw ymhleth, gan ddweyd "Yr Iesu wnaeth bob peth yn dda."

Hunodd heb ochenaid. Cafodd fyned adref at ei phobl, i ganu am waed y groes. Y mae arnom oll hiraeth ar ei hol. "Yr Arglwydd a roddodd, yr Arglwydd a gymerodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd."

Yn nghanol y galar a'r hiraeth bydded i'r teulu gofio mai y gelyn olaf ydyw angeu, ac mai gelyn a ddinystrir ydyw, a Duw fyddo yn dirion wrthynt gan beri na fyddo yr un o honynt ar ôl.
D. KNOWLES.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1864.


MRS. CATHERINE MORGANS. LONG CREEK, IOWA.

Medi 8fed, 1864, Mrs. Catherine Morgan, o Long Creek, Iowa, chwaer Mrs. Elizabeth Davies, (1802-1864) yn 64 mlwydd oed.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1865.