MRS. CATHERINE MORRIS, STATE ROAD, PENYMYNYDD, STEUBEN, NEW YORK.

Mawrth 8fed, yn ei hanedd ar State Road, Penymynydd, Steuben, Mrs. Catharine Morris, priod Mr. William Morris, tua 77 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Morris yn ferch i Mr. John a Jennett Evans, o Cae'r Miner, plwyf Bythynog. Lleyn, Arfon.

Ymunodd mewn priodas â Mr. William Morris ychydig ddyddiau cyn eu cychwyniad i America, o borthladd Pwllheli. yn y flwyddyn 1818. Daethant dros y môr mewn 10 wythnos o'r pryd y cododd y llong ei hangor yn mborthladd Pwllheli, ac yn fuan daethant ymlaen i swydd Oneida. Bu iddynt dri o blant, dau fab a fuont feirw yn eu babandod, ac un, sef Morris Morris, ysw., sydd yn fyw, yn nheulu yr hwn y mae y tad yn awr yn cartrefu.

Derbyniwyd Mrs. Morris yn aelod eglwysig yn y Capel Ucha', Steuben, tua'r flwyddyn 1825, dan weinidogaeth y Parchn. W. Pierce ac Evan Roberts, a bu yn aelod o'r eglwys hono ac o eglwys Penymynydd o'i ffurfiad cyntaf hyd ei hymadawiad yn angau.

Yr oedd yn wraig barchus yn ei chymydogaeth, ac yn aelod cymeradwy yn eglwys Dduw. Bu farw gan ymddangos fod ei phwys yn dawel a diysgog ar y Gwaredwr.

Claddwyd hi mewn beddrod ar y tyddyn a ddewiswyd ganddi hi a'i phriod er's blynyddau lawer yn ôl, a gweinyddwyd gau y brodyr Mr. Flint a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1864.