MRS. ELIZABETH E. MORRIS, MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Medi 7fed, yn Middle Granville, New York, yn 35 blwydd oed, Elizabeth E. Morris, priod Edward Morris.Merch ydoedd i Ellis a Mary Davies, Caenant, Llanberis, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1851. Bu yn aros yn New York hyd y flwyddyn 1854, - sef yr amser darfu iddi ymgysylltu mewn priodas â Mr. Morris. Bu yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn Middle Granville o ffurfiad cyntaf yr eglwys hyd ddydd ei marwolaeth.
Yr oedd wedi dyfod i amgylchiadau lled gysurus gyda golwg ar bethau y bywyd hwn, ac yr oedd ei llaw a'i chalon bob amser yn agored i gyfranu o'i heiddo at gynal achos crefydd. Yr oedd yn hynod am ei flyddlondeb mewn mynychu moddion gras, anaml iawn y byddai ei lle hi yn wag os na byddai yn cael ei lluddias gan afiechyd. Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth yr oedd yn syllu ar ddarlun y Parch. L. D. Howell ac wrth edrych arno dywedodd, "O mor dda fyddai genyf gael myned ato," a'i dagrau yn rhedeg dros ei gruddiau. Beth wyddom ni na çhyrhaeddodd yr ocheniad yna orsedd Duw, ac iddo ganiatau iddi ei dymuniad. Ni a hyderwn mai felly y bu, a bod
Ei dwyfol ran yn ngwynfa
Mysg blodau bythol wyrdd
Lle tyf teleidion ffrwytha',
Ar goed anfarwol fyrdd,
Y llifa ffrydiau peraidd
Ffynonau dwyfol hedd
A chwyth awelon balmaidd
I'r wlad lle nad oes bedd.
Traddodwyd pregeth ddifrifol yn y gladdedigaeth gan y Parch. Samuel Jones. Gadawodd briod serchus a thri o blant bychain i alaru ac i deimlo eu colled ar eu hol. Yr Arglwydd a fyddo yn nerth ac yn amddiffyn iddynt.