MR. ROBERT MORRIS. NELSON. MADISON, COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 5ed, 1864, yn Nelson, Madison County, New York, Robert Morris, yn 15 mlwydd oed, er Tachwedd 24ain, 1863.Mab ydoedd i Mr. Evan a Jane Morris, Planwydd Helyg, Plwyf Clynin, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Ei afiechyd ydoedd y gwddf bydredd. Yr oedd yn analluôg i weithio ers misoedd gan y cryd cymalau, ond yn gallu myned i'r ysgol ddyddiol, ac un ydoedd ag oedd yn gwneud defnydd da o'i ysgol. Yr oedd ynom obaith cryf y daethai yn ysgolhaig da pe cawsai fyw i fyned rhagddo.
Ond cyfarfu a'r gelyn diweddaf, a thorodd hwnw ymaith ein holl obeithion, er galar nid bychan i'w dad a'i ddwy chwaer a'i dri brawd sydd yn teimlo yn hiraethus ar ei ôl. Yr oedd ei fam wedi ei ragflaenu i'r byd mawr, gan adael yn ei bywyd a'i hangau dystiolaeth sicr ei bod yn ceisio ac yn myned i wlad well.
Cyfiawnder â'n hanwyl chwaer fuasai iddi gael cofiant llawn, am ei fod yn fendigedig; ond ryw fodd aeth yr amgylchiad heibio yn rhy ddisylw, am i hyny goddefwch hyn yma o grybwylliad, Mr. Golygydd, er ei fod yn anhymig.
Ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng rhan fawol R. Morris i dŷ ei hir gartref yn ymyl Capel Nelson. Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan yr ysgrifenydd, a phregethwyd ei bregeth angladdol oddiwrth Salm 90: 9.
D. T. ROWLANDS.