MRS. JANE PARRY. CALEDONIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Hydref 16eg, 1864, Jane, gweddw Mr. Hugh. Parry, a gofnodir yn flaenorol, yn 52 mlwydd oed; merch i Mr. Owen a Chatherine Jones, Gilfachwydd, plwyf Dolgellau, Cymru.

Ei hafiechyd oedd y Dyfrglwy'. Bu dan driniaeth meddyg bum' gwaith i laesu ei phoen, ond er hyn oll angau a derfynodd yr oes.

Pregethwyd yn ei chladdedigaeth gan yr Henuriad T. Phillips, oddiar Mat. 12: 20. Yr oeddent ill dau yn dal perthynas eglwysig â'r T. C. yn Caledonia. Nid oedd dim dolurus yn eu bywyd yn ystod eu taith fer gyda'r Achos, ac nid oedd dim amlwg ychwaith; gallwn obeithio am danynt yn y cymeriad hwnw, "Corsen ysig a llîn yn mygu." Treuliasant - efe a hithau - lawer o'u heiddo ar feddygon, er hyny yr oedd ganddynt ddigon yn weddill i gael claddfa anrhydeddus, a cholofn o faen Mynor er coffadwriaeth am danynt.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1865.