MR. OWEN PARRY. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 31ain, 1864, yn nhŷ ei ferch a'i fab yn nghyfraith, Mr. Thomas D. Thomas, Steuben, yr henafgwr Mr. Owen Parry, tad yn nghyfraith y Parch. William Rowlands, D. D., o Utica.

Cafodd hir gystudd a dybenodd yn angau iddo. Gwladwr ydoedd o Lanllyfni, Caernarfon, a buodd yn ddiweddar yn ymweled â'i hen ardal, a dychwelodd yn iach a heini o'i oedran. Ond trwy ychydig friw ar ei fys cafodd anwvd i hwnw a bu yn boenus a blinderus iawn ac aeth â'i fywyd.

Gadawodd amryw o blant i alaru ar ei ôl.

Gobeithiai yn Nghrist ers blynyddau, ac yn ei angau. Claddwyd ef yn Penygraig a gweinyddwyd yn ei angladd yn ôl ei ddymuniad gan y brodyr Thomas Thomas a Morris Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1865.