MR. ROBERT PRICHARD. CEFN Y COED, COLUMBUS, WISCONSIN.

Hydref 7fed, 1864, Robert Prichards, neu yn hytrach Robert Pritchard Roberts, Cefn-y-coed, Columbus, Wisconsin, yn 82 mlwydd oed, wedi crefydda dros 52 mlynedd yn ddiddolur, ac yn gynorthwyol i'r eglwys.

Teimlir colled fawr ar ei ôl er hyned oedd, yn enwedig am ei gynghorion yn y gyfeillach, a'i weddiau taerlon. Goddefer y crybwyllion isod am dano, mae yn haeddu.

Ganwyd ef yn y Foel Isaf, Clynog, Sir Gaernarfon, Cymru, yn 1782. Ei rieni oeddent Richard Davies a Mary Roberts (yn ôl yr arfer mewn manau y pryd hyny, o gyfenwi y mab yn ôl enw y tad, a pheidio newid cyfenw y wraig i eiddo y gŵr).

Ymbriododd yn 1809 â Jane, merch John a Sydney Williams, Ynys y graian, plwyf Llangybi, yn yr un Sir, yr hon sydd yn awr yn weddw ar ei ôl. Bu iddynt 7 mab a 3 merch, o'r rhai y mae un ferch a dau fab wedi eu claddu yn Nghymru. Buont byw tua 6 mlynedd yn Nghlynog, yna svmudasant i blwyf Llandwrog, yn yr un Sir, lle y buont am 10 mlynedd; yna symudasant yn ôl i Glynog, lle y buont am 20 mlynedd, sef hyd eu symudiad i America yn 1845, pryd y daeth ef a'i deulu i'r ardal hon.

Dywedir ei fod yn awyddus iawn pan yn ieuanc i ddysgu darllen, ac mor awyddus a hyny wedi dysgu ei hun, i ddysgu eraill; teimlai bleser yn y gwaith, a chafodd y fraint o ddysgu llawer iawn yn enwedig yn Bwlan, Llandwrog, mae yno luaws yn dystion byw heddyw o'i lafar caled a chyson gyd a'r Ysgol Sabbothol, ar bob hîn ac amgylchiad.

Dechreuodd rhyw anesmwythdra godi yn ei feddwl am ei gyflwr rhygddo â'i Farnwr pan yn ieuanc, a pharhaodd felly amrye flynyddau; ond o'r diwedd, pan tua 30 mlwydd oed, daeth yn dywydd mawr arno, nes methu cael esmwythdra i'w enaid yn un man ond yn addewidion Duw yn wyneb Iesu Grist ac ymunodd â'r eglwys yn Brynaerau, Clynog, yn y flwyddyn 1812. Ni byddai foddlon o hyny allan oni fyddai ganddo ryw beth o Air yr Arglwydd ar ei feddwl yn brofiad grymus.

Mynych y cynghorai grefyddwyr ieuainc i beidio boddloni ar obaith oni fyddai y Gair yn sail iddo. Dylanwad y Gair ar y meddwl, trefn gras, cariad Duw yn Nghrist, a.y., oedd ei hoff bynciau, porfa fras yr 17eg o Ioan, a'r cyffelyb, oedd at ei chwaeth.

Bu yn dra llafurus gyda'i blant, yn eu dysgu yn ffordd yr Arglwydd, eu hannog a'u cyfarwyddo i geisio yr Arglwydd, ac ni fu ei lafur yn ofer, bu feirw y plant a'i rhagflaenodd mewn ffydd, a gadawodd y gweddill byw oll yn ceisio dilyn ei ôl yn ffordd crefydd. 'Wel,' meddai wrth ei blant yn ei gystudd, 'yr wyf fi wedi gweddio llawer drosoch chwi er ys 40 mlynedd, dysgwyliaf y gwnewch chwithau gofio am danaf finau yn bresenol, a gofyn am i mi gael cymhorth yn y cyfwng yma.' Gofynodd un o'i blant iddo dranoeth pa fodd yr oedd yn teimlo. 'Wel,' meddai, 'nid yw yn rhyw oleu iawn ar fy meddwl, er nad wyf yn ofni, daeth y gair hwnw at fy meddwl ychydig ddyddiau yn ol, 'A charu o honot hwynt, megys y ceraist fi.' Nid oes arnaf ddim ofn.'

Hydref 8fed, claddwyd ef yn barchus gan dyrfa luosog yn mynwent Bethel. Pregethwyd ar yr achlysur oddiar Dat. 14; 13, gan y Parch John J. Roberts.

Gristion egwan, paid ag ofni,
Pan yn teithio bro y glyn,
Mae dy Iesu cu yn dyfod
I'th gyfarfod y pryd hyn;
Y mae'th angor yn ddiogel,
Paid ag ofni ddim yn hŵy,
Pwysa ar dy Iesu grasol,
Y mae rhinwedd yn ei glwy'.

Dos yn dawel i'th orphwysfa,
Ni'th ofidia pechod mwy,
Ni ddaw gelyn byth i'th flino,
Nac i roddi i ti glwy';
Clyw, mae'r clychau'n dechreu canu,
I'th groesawu tua'r wlad,
Lle cei fythol ymhyfrydu
Yn yr iachawdwriaeth rad.
EI WYRES - ELLEN JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1865.