MISS. ELIZABETH RICHARDS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Merth ydoedd Elizabeth Richards i Thomas a Margaret Richards ger Cambria, Wisconsin, yr hon a fu farw Gorphenaf 18fed, 1864, yn y bedwaredd flwyddyn ar hugain o'i hoedran.Lle preswylfod y teulu yn Nghymru oedd Dyffryn Ardudwy, Meirionydd, Gogledd Cymru.
Buont yn aros am beth amser wedi dod i'r wlad hon yn Swydd Oneida. New York; ond yn awr ers rhai blynyddoedd yn y dalaeth hon. Nid dyma yr ergyd cyntaf a gafodd y rhieni hyn, er y teimlant, ond odid, mai hwn yw y trymaf. Ond y mae yn nghyd â'r demtasiwn ddiangfa hefyd y waith hon eto, a hyny nid yn unig yn yr un man ag Eli. "Yr Arglwydd yw Efe," a.y., ond hefyd yn yr adgof o gymeriad crefyddol a Duwioldeb boreuol eu hoff Elizabeth. Yr hyn sydd o wir werth a chysur i'r byw eu cofio am y marw ydyw eirinweddau a'i duwioldeb; ac am Elizabeth Richards, er nad oedd ond geneth ieuanc, gallaf ddyweyd heb ofni i'r rhai a'i hadwaenai amheu fy nhystiolaeth, nad oedd y cyntaf yn brin, na'r ail yn amheus. Cafodd Elizabeth ei magu yn yr eglwys, ac yr oedd cael teulu crefyddol i'w dwyn i fyny felly yn fraint a brisiai yn uchel iawn wedi cyrhaedd addfedrwydd oedran; ac mor ddifrifol y cynghorai eraill i beidio a diystyru eu genedigaeth fraint, na chellwair â'r pethau â arweiniodd lawer o ieuenctyd i gefnu ar dŷ Dduw.
Yr oedd ei chrefydd yn ffrwytho yn naturiol - yn dod i'r golwg yn ei pharch i'w rhieni, i ordinhadau yr efengyl, i ddydd yr Arglwydd, ac i'r Beibl. Hawdd oedd canfod archwaeth a thuedd ei meddwl, yn y cwmni a ddewisai, y llyfrau a ddarllenai, y nodion a ysgrifenai iddi ei hun, a'r llythyrau a ysgrifenai at eraill. Llawer cynghor a roddodd i ieuenctyd digrefydd i dderbyn ac arddel Iesu Grist, fel y tystiant ar ôl ei chladdu. Cafodd ei derbyn i gyflawn aelodaeth pan yn un ar bymtheg oed, ac yr oedd trwy'r blynyddoedd yn ddiwyd gyda'i chrefydd.
Ond yn y gwanwyn diweddaf, pan eto yn iach a siriol, daeth i'w meddwl i gael mwy o sicrwydd bod ei mater personol yn dda. Ni bu ei llafur yn ofer—goleuodd yn foddhaol ar ei meddwl — ni bu athrist mwy.
Tua dechreu yr haf cafodd gystudd am rai wythnosau; bu yn ddyoddefgar tano, a daeth allan yn loywach o hono. Adferwyd ei hiecbyd ac adnewyddodd ei nerth i allu ymddangos ychydig droiau yn nghynulleidfa yr Arglwydd; ond, mewn canlyniad i oerni, ail glafychodd : cododd yr anhwyldeb i'r pen. Cafodd ychydig ddyddiau o glefyd trwm; ac er pob ymgeledd a chymorth, ymollyngodd y babell bridd, ac ehedodd yr ysbryd at Dduw.
Hebryngwyd ei gweddillion marwol i'r gladdfa yn nghymydogaeth Proscairon, lle ydoedd amryw o'r teulu o'r blaen. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ cyn cychwyn gan y Parch. Thos. Phillips, Caledonia, ac wrth y bedd gan y brodyr T. H. Roberts a Rees Evans. Gellid ychwanegu llawer o'i dywediadau, - arweiniai hyny i ormod meithder; ond nis gallwn ymatal heb ail grybwyll, er fod diwydrwydd ei llaw wedi peidio, a thegwch ei gwedd wedi gwywo, a sirioldeb ei llygaid wedi pylu yn angau; eto y mae adgofion am ei chymeriad crefyddol a'i duwioldeb boreuol yn beraroglaidd iawn.