MR. DAVID ROBERTS. ROCK HILL, WISCONSIN.

Ganwyd gwrthddrych ein cofiant yn Gelli Ffrydiau, plwyf Llandwrog, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua'r flwyddyn 1784.

Cafodd ddygiad i fyny, a dysgeidiaeth well na'r cyffredin o'i gyfoedion Ymgymerodd yn ieuanc â dysgu swydd cyfreithiwr; ond gan nad oedd y swydd yn cydweddu â'i dueddiadau heddychol, dewisodd yn hytrach fod yn amaethwr.

Ymsefydlodd ar ôl priodi yn y Ffridd, ger Rhyd-ddu, Beddgelert, lle y bu hyd ei ddyfodiad i America, yn 1846, pan ymsefydlodd yn Rock Hill, Wisconsin, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth, Ionawr 30ain, 1864, yr hon a achoswyd drwy y Colic, ar ôl prin dri diwrnod o gystudd blin.

Claddwyd ei ran farwol Chwef. 2ail. Gweinyddodd yr ysgrifenydd ar yr amgylchiad, yn nghyd ag anerchiad angladdol ar yr un achlysur ar y laf o Fai canlynol, Oddiwrth Heb. 13 7.

Bu farw ei briod yn fuan ar ol ei ddyfodiad yma, mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad gwell.

Galwyd ein parchus frawd i winllan ei Arglwydd yn yr adfywiad crefyddol a elwir gan ein tadau, "Diwygiad Beddgelert." Yn fuan, trwyddo ef a rhai ereill, dechreuwyd achos yn Rhyd ddu, ac yn mhen tua dwy flynedd galwyd ef i fod yn ddiacon i'r eglwýy, lle y llafuriodd yn ffyddlon am feithion flynyddau, gyda'r Parch William Jones (yn awr yn Wisconsin.)

Cyfranodd yn helaeth at bob achos da; bu ei dŷ yn gartref i'r saint a gweision y Goruchaf; tywysodd braidd Duw ger llaw dyfroedd tawel; arolygodd yr Ysgol Sabbothol, ac arweiniodd y canu am amser maith, ac yr oedd bob amser yn barod i bleidio pob sefydliad, a chymdeithas foesol a rhinweddol.

Yn mis Awst, 1856 sefydlwyd achos i Dduw yn yr ardal hon (Rock Hill), ac yn fuan galwodd yr eglwys y brawd ymadawedig, yn nghyd a'r ysgrifenydd i ofalu am y gwaith, a buom yn cyd-dynu yn dangnefeddus dan yr iau am dros 17 mlynedd, gan gydymgynghori cydweled, a chydweithio yn dawel yn mhob amgylchiad.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1865.