MR. JOHN J. ROBERTS. ORISKANY, NEW YORK.
Rhagfyr 31ain, 1864, yn Oriskany, New York, John J. Roberts, yn 21ain mlwydd oed, yr hwn oedd yn unig fab i Robert J. a Lowry Roberts, gynt o'r Bala, Gogledd Cymru, ond o Oriskany am y 18 mlynedd diweddaf.Yr oedd John yn un o'r rhai rhagoraf yn mhlith Ieuenctyd Cymry America. Ni wnaeth 'chwantau ieuenctyd' ddim anffurf ar ei fuchedd tra y bu byw, a gadawodd esiampl dda ar ei ôl i'w gyd ieuenctyd. Cafodd ei fagu yn ofalus gan ei rieni yn yr Eglwys gyda'r T. C. yn Oriskany; cyflwynodd ei hun yn gyflawn aelod o honi yn 16 mlwydd oed, ac yr oedd llawer o arwyddion planhigyn byw arno yn nghynteddau yr Arglwydd, oblegid yr oedd yn ffrwytho ac yn tyfu hyd ei fedd; a'i dystiolaeth ddiweddaf oedd, ei fod 'yn caru'r Iesu.'
Cafodd yr Eglwys, ac yn enwedig yr Ysgol Sabbothol, golled fawr ar ei ôl, oblegid yr oedd yn meddu talentau, ac yn ufudd i'w defnyddio, er ei fod yn naturiol ddystaw a gwylaidd. Yr oedd newydd orphen dwy araeth, un ar yr Ysgol Sabbothol, a'r llall ar Ddirwest; ond cafodd ei gymeryd trwy y Dwymyn Typhoid oddiwrth ei waith at ei wobr cyn eu traddodi. Yr oedd yn hynod o lafurus am bob gwybodaeth fuddiol, yn grefyddol a gwladol; gwnaeth y goreu o'i ysgol tra y bu ynddi, a thrwy hyny ennillodd y titl o fod yn aelod dros ei fywyd o Goleg Masnachol Utica.
Ond 'syrthiodd y blodeuyn!' Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth, Ionawr 2ail gan y Parch. Edward W. Jones, York Mills.
THOMAS JENKINS.