MR. OWEN ROBERTS. LOWVILLE, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 3ydd, 1864, yn ardal Lowville, Swydd Lewis, Caerefrog Newydd, yn 63 mlwydd oed, Owen Roberts, mab i Robert a Catherine Owens.Ganwyd ef yn y Dylasia plwyf Penmachno Isaf, Gogledd Cymru, 35 mlynedd yn ôl ymunodd mewn priodas â Mary Williame, chwaer i'r Parch. Robert Williams, Aberdyfi, pa un sydd wedi ei gadael i ofal Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon.
Symudodd ef a'i briod i America yn y flwyddyn 1831, a sefydlasant yn ardal Remsen a Phenycaerau am y 12 mlynedd cyntaf yn y wlad hon, a'r 21 mlynedd diweddaf yn ardal Lowville.
Yr oedd Owen Roberts yn ddyn tawel, caredig, cymwynasgar, a thangnefeddus fel cymydog, ac yn gymeradwy yn ei ardal. Trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ef a'i briod a'u mab, casglasant gyfran o dda y byd hwn, fel y mae y gweddill mewn sefyllfa gysurus o ran pethau y bywyd hwn. Ymunodd â chrefydd 36 mlynedd yn ôl, yn Yspytty Ifan, Sir Feirionydd, a chafodd y fraint o barhau yn ffyddlawn hyd angau.
Nid yn fynych y byddai yn honi profiadau uchel a thanbaid o drysorau grâs yn ei enaid, ond yr oedd ei ofal am achos Iesu Grist yn cael ei amlygu yn ei weithredoedd, sef rhoddi ei dŷ i gynnal addolíad ynddo am ysbaid maith o flynyddoedd. Nid crefyddwr crintach, cybyddlyd, oedd, ond cyfranai yn deilwng at gynnal gweinidogaeth yr efengyl, a hyny gyda chysondeb. Nid llawer a ddywedodd am sicrwydd ei obaith yn ei Waredwr cyn ei ymadawiad. Teimla yr ychydig Gymry yn yr ardal golled fawr ar ei ôl.
Ar y 5ed rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn y fynwent berthynol i'r plwyf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Cheesman, yn Saesonaeg, a'r Parch. Edward Rees yn Gymraeg. Yr Arglwydd a ofalo am ei briod, ac a roddo fodd iddi ymddiried ynddo byth, oblegid ynddo ef y mae cadernid tragywyddol. Hefyd, y mab a gaffo ei wneyd yn enwog mewn crefydd a duwioldeb.
J. H., COLLINSVILLE.