MR. ROBERT R. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yr ydoedd gwrthrych y Cofiant hwn, er nad yn ŵr cyhoeddus, eto yr oedd cylch ei gydnabyddiaeth yn eang iawn, fel masnachwr, crefyddwr a gwladwr, ac yr oedd yn dra chymeradwy yn holl gylch ei gydnabod fel dyn da, cywir a ffyddlon. Yr ydoedd yn hen drigianydd yn Remsen.

Mab ydoedd i Richard Roberts o'r Bryngwdyn, Lleyn, Caernarfon. Ganwyd ef Mai 25, 1810, ac felly yr oedd ei oedran yn marw tua 54 mlwydd a 6 mis.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1827, tua dwy ar bymtheg oed, ac ymsefydlodd yn Remsen, yn gweithio ei gelfyddyd o ddilledydd.

Ymunodd mewn priodas pan tuag ugain mlwydd oed â Miss Mary Evans, un bron o'r un ardal yn Nghymru, a thrigasant yn Remsen braidd eu holl ddyddiau. Bu iddynt 9 o blant; tri fuont feirw, a chwech o ferched sydd yn aros ar ei ôl gyd a'u hanwyl fam i alaru ac i ymofidio am eu mawr golled.

Ymunodd â chrefydd pan tuag ugain oed. Yr oedd y pryd hyny ddiwygiad yn yr ardal yn mysg Saeson a Chymry, yn cael ei ddwyn yn mlaen gan un Littlejohn a David a Thomas Stephen, a dylanwadwyd ar ei feddwl yntau nes y penderfynodd ymuno â phobl yr Arglwydd, a gwnaeth hyny yn Penycaerau, gyda'r T. C. ac yno yr arosodd hyd ffurfiad eglwys y T. C. yn capel ceryg Remsen. Yr ydoedd ef yn un yn y sefydliad hwnw.

Yn Hydref y flwyddyn 1837, darfu iddo ef yn mysg eraill ymadael, a sefydlwyd eglwys Gynulleidfaol yn Remsen yn Chwefror, 1838, yn sefydliad pa un dewiswyd ef a dau frawd arall yn ddiaconiaid, a buont yn y swydd hono gyd a'u gilydd hyd ei farwolaeth ef, ac efe yr ieuengaf o'r tri a alwyd adref gyntaf trwy angeu.

Gweinyddodd yn y swydd yn gyson a ffyddlon am yn agos i 27 mlynedd. Efe oedd yn cadw coffadwriaeth o weithrediadau yr eglwys, yn gofalu am fwrdd y cymundeb, ac yn un yn gweini i'r cymunwyr yr holl amser hyny. Heblaw hyny efe oedd arweinydd y canu yn oedd yn y gwaith; treuliodd ac ymdreuliodd dros ei oes gyda chanu, ac yr ydoedd ac y mae ei ferched yn gantorion deallus a soniarus, a buodd eu canu ar hyd y blynyddoedd yn rhan ardderchog o'n dwyfol wasanaeth, yr oeddynt i ni fel telyn ac organ. Yr oedd ganddo gasgliad o donau yn ôl gwahanol fesurau wedi eu rhwymo yn nechreu ei lyfr hymnau, fel y gallai gael yn fwy rhwydd donau priodol i'r hymnau a genid. Gwnaeth ei ran yn mysg eraill er cael addysg mewn canu, a nawr yr ymhyfrydai yn y gwaith.

Ond yn ei farwolaeth "aeth ein telyn yn alar a'n horgan fel llais rhai yn wylo." A phe gofynid i ni yn awr am ganu rhai o'r caniadau a fu byddai raid ateb, pa fodd y canem a ni mewn gwlad ddieithr? I,e yr oedd yr ymadawedig i raddau mawr yn ffyddlon yn yr holl dŷ megys gwas, ffyddlon yn yr ysgol Sabbothol, yn y cyrddau gweddi, yn y gyfrinach grefyddol, ffyddlon i holl bethau pwysig ei ddydd.

Yr oedd yn un o'r gwrthgaethiwyr cyntaf a phenaf y fro, a bywiog y gweithiodd ar ddydd yr etholiad diweddaf dros blaid rhyddid yn erbyn gormes. Llawer pleidlais a roddodd dros yr un egwyddor, ond yn y lleiafrif, ond cafodd roddi ei olaf yn mysg y mwyafrif, a gobeíthio i derfynu y dynged wladol fwyaf fu yn y byd erioed. Yr un modd yr oedd yn berffaith ddirwestwr. Ni amheuwyd ei gywirdeb erioed, fel masnachwr, celfyddydwr, a chrefyddwr.

Yn mysg swyddau pwysig eraill a lanwodd yn ffyddlon, yr ydoedd yn drysorydd y Beibl Gymdeithas a elwir "Beibl Gymdeithas Remsen, Steuben a'r amgylchoedd." Gweinyddodd yn ffyddlon am dros ugain mlynedd. Byddai ei gyfrifon mor amlwg a chryno fel y byddai pawb yn deall sefyllfa y Gymdeithas o flwyddyn i flwyddyn. Yr oedd y Gymdeithas yn fwy llwyddianus a defnyddiol yn y blynyddau hyny nag y buodd erioed cyn hyny. Yr oedd yr holl gyfraniadau yn gyffredin yn cael eu rhoddi yn gyflawn i'r fam gymdeithas at achosion tramor, am ei fod ef yn ffyddlon i werthu y llyfrau am eu llawn bris i bawb a allai dalu. Yr unig bethau oedd y Gymdeithas yn eu rhoi allan oedd llyfrau i dlodion a'r cludiad o New York i Remsen. Ac onid yw hyn yn rhesymol ac addas i Gristionogion i dalu yn llawn am lyfrau mor rhad ag eiddo y Gymdeithas er mwyn i'w pagan gael Beibl? Ac onid ydyw yn anaddaB íawn i werthu y Beibl dan bris i bobl sydd yn gallu talu llawn bris am bob peth arall fyddo yn angen?

Cyfarfu a'i angeu heb i neb nac ynteu chwaith feddwl am hyny. Lledrithiodd angeu yn ei gystudd a'i farwolaeth. Ni ddeallwyd yn benderfynol beth oedd ei glefyd. Cysurid pawb gan y meddygon ei fod yn gwneud yn dda a gobeithiol, hyd nes oedd bron drosodd ; cysgodd ei hun olaf, rhy bell i allu ei ddeffro, ac felly bu farw. Buodd farw heb feddwl iddo ei hun, ond nid heb feddwl i'r Iesu a theulu yr ochr draw, a brysurent i'w roesawu adref. Dywedai wrth un oedd yn ymweled âg ef, ei fod yn gobeithio gwella o ran ei deulu, ond o'i ran ei hun nad oedd un gwahaniaeth ganddo ef. Dyna'r cwbl a ddywedodd yn ei gystudd; ond dywedodd lawer iawn, a hyny yn deilwng o'i broffes, yn ei fywyd.

Bu farw ar yr 16eg o Ragfyr, 1864.

Cafodd y brawd Roberts farw yn yr adeg o'i fywyd ac yn y modd tebycaf i'w farw gario effaith ddwfn a da ar y hyw ar ei ól. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, yn nghanol ei ddefnyddioldeb a'i lafur, ie yn yr adeg ag yr oedd mwyaf o'i angen yn ei deulu, yr eglwys a'r gymydogaeth; bu farw cyn dechreu heneiddio, machludiodd ei haul a hi eto yn ddydd, cyn i lwydrew henaint ymdaenu dros ei ben, cyn tywyllu ei haul a'r goleuni, cyn i geidwaid y ty grynu, a chyn gostwng i lawr ferched cerdd. Bu farw yn mynwes ei deulu heb hir gystudd na phoenau mawrion, bu farw yn dawel ac esmwyth, bu farw i bawb a phob peth y bywyd yma, bu fyw i farw, a bu farw i fyw byth gyda Christ yn y nef.

Ymdaenodd y newydd am ei farw annisgwyliadwy fel taran gref dros y wlad, fel y pruddhaodd y fro ac y dechreuodd llawer, îe llawer un feddwl am ei wir werth mewn bywyd. Ni welwyd gwerth llawer un nes ei golli. Ymgasglodd y dorf fwyaf i'w gladdu, a theimlai pawb fod tywysog a gwr mawr wedi syrthio, galarai llawer am dano fel hen ffrynd a chyfaill, a llawer a alarai am dano fel brawd yn Nghrist, fel eu ffyddlon gyd-lafurwr yn ngwinllan eu Harglwydd, a chofid gan lawer am dano fel ein telyn a'n horgan, un a ganai yn dda dros ei oes. Ond yr oedd yno briod a gweddw yn galaru, yn galaru am briod anwyl a thyner, a phlant a wylent gan waeddi, O fy nhad, O ft nhad, O fy nhad!! Diameu fod amcan mawr gan ddwyfol ragluniaeth yn yr angeu hwn; gobeithio y cawn ddeall yr amcan hwnw a'i wneud. Mynai Duw ini wybod a theimlo, a deffroi i gydymdrech mwy gyda'i waith, a mynai i ni nesu yn nes eto, ymmdiried ynddo yn fwy, gan ymbrysuro i fod yn barod i fyned ar ei ól i'r nefol wlad i fyw.
Un o'r galarwyr, MORRIS ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd. ~ Chwefror 1865.