MR. OWEN J. ROWLANDS. PEN Y GWRYD, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Ebrill 3ydd, 1864, yn 29 mlwydd oed, Mr. Owen J. Rowlands, mab Mr. John R. a Jane Rowlands, Pen-y-gwr-hyd, Welsh Prairie, Wisconsin, gynt o Ben-y-gwrhyd yn Beddgelert, Gogledd Cymru.Cafodd ei ddwyn i fyny yn eglwys Dduw er yn ieuanc, a bu yn aelod rheolaidd hyd ddiwedd ei oes; ac nid un diffrwyth ydoedd chwaith, ond byddai yn foddlawn i wneyd yr hyn a allai bob amser at ddyrchafu yr Enw rhagorol, mewn gair a gweithred. Bu yn arwain y côr perthynol i'r eglwys yr oedd yn aelod o honi, ac yn gofalu am ddechreu canu yn y moddion cyhoeddus am lawer o flynyddoedd, ac hyd nes yr ataliwyd ef gan ei afiechyd.
Dichon nas gellir sicrhau beth oedd ei afiechyd ar y cyntaf, ond ymddengys mai yr hyn a achosodd ei farwolaeth oedd y Dyfrglwyf. Bu yn afiach am dymhor maith iawn, ac er i ni obeithio ar brydiau ei fod yn gwella, eto ymddengys mai gwanhau yr oedd. Yr oedd wedi myned yn boenus iawn yspaid cyn ei farwolaeth, ond goddefai y cyfan yn dawel a dirwgnach, a theimlem yn sicr fod y cyfan yn effeithio i'w ddwyn yn nês at ei Dduw, ac i ymddiried mwy ynddo Dydd Sabboth, Ebrill y 3ydd, rhyddhawyd ef o'i holl boenau, a chredwn iddo gael mynediad helaeth i mewn i'r bythol drigfanau, i fwynhau cymdeithas Duw a'r Oenyn dragywydd. Nid oedd arno yr arswyd lleiaf pan yn wynebu angau, ond yr oedd yn gallu edrych yn ei wyneb yn dawel a di-gyffro, gan yr hyderai nas gallasai angau ond ei arwain i wlad y dedwyddwch tragywyddol, yn yr hon y trig cariad a thangnefedd bythol, i gael mwynhau y gwynfyd perffaith sydd yn cyfoethogi anfarwoldeb byth.
Dydd Mercher canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog i arwyddo eu cydymdeimlad â'r teulu trallodus yn eu profedigaeth, a chyflawni y gymwynas olaf i weddillion un anwyl a pharchus. Claddwyd ef yn y fonwent sydd gerllaw Cambria, a gweinyddodd y Parch. Rees Evans ar yr achlysur. Nid oes genym ond tewi yn ngwyneb yr oruchwyhaeth, gan gofio fod gwlad yr ochr draw i'r bedd, a bywyd tu draw i farwolaeth; ac os yw bywyd yn felus yma, yn ngwlad yr anghysur, trallod, a marwolaeth, pa faint mwy felly yno, yn ngwlad y dedwyddwch pur, y llawenydd di-gymysg, a'r bywyd diderfyn?