MRS. ALICE THOMAS. HOUSTON STREET, NEW YORK.
Awst 29ain, 1864, yn Heol Houston, New York, ar enedigaeth plentyn, yn 41 mlwydd oed, Mrs. Alice Thomas. Bu, ac y mae amrai o chwiorydd duwiol a ffyddlon, yn aelodau o'r Eglwys Gynulleidfaol Gymreig ar Heol lleg dinas New York. Un o'r cymeriadau anwyl hyny oedd yr uohod, priod hoffus Mr. David Thomas, un o ddiaconiaid presenol yr Eglwys.Ganwyd hi yn nhref Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1823.
Claddwyd hi a'i baban yn barchus dranoeth i'w marwolaeth, yn mynwent Greenwood, ar y Long Island.
Enwau rhieni yr ymadawedig oeddynt Thomas ac Elizabeth Roberts. Joiner oedd ei thad wrth ei gelfyddyd. Clywsom nad oedd yr un o honynt yn grefyddol; ond bod ei thaid a'i nain, o du ei thad, yn rhai nodedig mewn duwioldeb. Bu farw ei rhieni tra yr oedd hi yn ieuanc iawn. Bu iddynt amrai o blant, o ba rai nid oes yn awr yn fyw ond dwy o'i chwiorydd, sef Mrs. Elinor Roberts, Pwllheli, a Mrs. Jane Jones, Rhif 228 South Second Street, dinas Jersey.
Cafodd Mrs. Thomas addysg grefyddol foreuol dda yn yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, yr hyn a effeithiodd yn llesol arni dros ei holl oes. Derbyniwyd hi yn aelod grefyddol yn Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, yn Pwllheli, pan oedd oddeutu 15 mlwydd oed, a chafodd lawer o ras i fod yn ddiargyhoedd a ffyddlon yn ngwasanaeth y Gwaredwr hyd angau - dros 25 mlynedd. O fraint anrhaethol! Dechreuodd yn onest a gwresog; parhâodd yn wyliadwrus ac ymdrechgar; a diweddodd ei gyrfa mewn ffydd gref, a thangnefedd tragywyddol. Salm 37: 37. Pregethais yn Saesonaeg ar y testun uchod yn y tỳ, ar ddiwrnod ei chladdedigaeth.
Nid wyf yn gwybod pa bryd y symudodd o Gymru i America; ond tybiwyf ei bod wedi cartrefu yn y ddinas hon am yn agos i ugain mlynedd. Yr oedd Mr. Roberts, ei gŵr cyntaf, yn aelod crefyddol gyda y T. C. yn y ddinas hon hyd ei farwolaeth. Cafodd ef a hithau lawer o ymgeledd a chysuron ysbrydol dan weinidogaeth y Parch. William Rowlands, D. D., yn Allen Street.
O'r briodas gyntaf y mae un bachgen yn fyw, sef Robert, yr hwn, ychydig wythnosau cyn marw ei fam, a hwyliodd fel morwr ar long un o'i berthynasau oddi yma i Lundain. Gobeithio pan glyw am ei hymadawiad hi, yr adgofia ei gweddiau a'i chynghorion difrifol, ac y bendithia y Nef hyny er ei wneyd yn "greadur newydd," ac y treulia weddill ei oes yn ddefnyddiol yn ngwinllan Iesu.
Priododd Alice eilwaith â Mr. David T. Thomas, gynt o ardal Trelech, Sir Gaerfyrddin De Cymru; wedi hyny o Utica, Oneida County, New York. Ganwyd iddynt amrai blant, pa rai a fuont oll feirw yn eu mabandod, ond Eliza, pa un sydd yn awr o ddeutu 8 mlwydd oed ac yn byw gyda'i hewythr, Mr. Roberts a'i briod yn ninas Jersey. Bu Alice Thomas a'i phriod yn cadw Boarding House am flynyddau yn Rhif 13 Catherine Street, ac wedi hyny yn Rhif 89 East Broadway. Yn y Ueoedd hyny daeth lluoedd o Gymry, ac ereill yn gydnabyddus â hi, at ba rai yr ymddygodd yn ofalus a charedig, nes ennill eu serch a'u gair da; ac y mae ei choffadwriaeth yn anwyl ganddynt. Yr oedd yn wraig nodedig ffyddlon i'w phriod; yn fam ofalus am ei phlant; a bu yn aelod tra ffyddlon a selog am dros naw o flynyddau yn yr Eglwys Gymreig Anmibynol yn llth Street. Yr oedd yn wir ofalus am yr Achos; yn aelod dangnefeddus, ac yn parchu gweinidogion Iesu. Cafodd farw heb golli ei choron.
Mam dyner yn Israel oedd Nos Sabboth canlynol i'w chladdedigaeth, pregethais i dyrfa luosog o'i pherthynasau a'i chyfeillion, oddiar Marc 14: 8, 9, 'Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Rhoddaf yma grynoad o'r sylwadau, pa rai sydd yn egluro ei gwir gymeriad. Nid oedd hi, mwy nag ereill o ffyddloniaid Seion, heb ei ffaeleddau. Ond nì wyddwn i ond am ychydig o honynt. Dichon mai ei ffaeledd mwyaf oedd bod yn rhy drafferthus a phryderus gyda gorchwylion cyfreithlon y bywyd hwn. Ond credwyf ei bod wedi ymdrechu mwy am y bywyd tragywyddol.
Beth a wnaeth hon ? Cyflwynodd ei hunan i'r Arglwydd yn moreu ei hoes - darllenodd a myfyriodd lawer ar yr Ysgrythyrau - gweddiodd lawer yn ddirgel a chyhoeddus; yr oedd ei gweddiau yn daerion ac effeithiol - yr oedd yn wir ofalus a selog dros Achos y Gwaredwr - yr oedd yn ffyddlon yn y moddion cyhoeddus, a gwrandawai yn astud a siriol - cydweithredai yn ewyllysgar â'r eglwys yn mhob achos da - cyfranai yn haelionus a siriol - cydymdeimlai a chalonogai swyddogion yr eglwys, yn enwedig ei gweinidogion sefydlog a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.
Ni allodd ddyweyd gair am y tri diwrnod y bu mewn gwasgfeuon trymion cyn ei marw; nid oedd rheidrwydd am hyny; canmolodd Iesu a'i achos yn ei byw; yr oedd ei barn a'i mater wedi ei wneyd yn dda trwy Drefn Gras. Gwnaeth Duw gyfammod tragywyddol â hi ac yr oedd wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr.
Pa fodd y gwnaeth hon yr hyn a allodd? Drwy ras Crist yr hwn oedd yu ei nerthu hi - yn ddidwyll - yn ddiwyd - trwy rwystrau lawer, er gwaethaf cnawd a byd - ac yn gyson, selog, a sefydlog hyd angau. Ymdrechodd ymdrech deg; cadwodd y ffydd; gorphenodd ei gyrfa, drwy rymus weithrediad ei allu Ef; a rhoddodd Iesu goron cyfiawnder iddi yn nheyrnas nef.
Paham y gwnaeth yr hyn a allodd? Am fod Ysbryd santaidd Duw wedi gweithio ynddi yr ewyllysio a'r gweithredu - am ei bod wedi ei chwbl argyhoeddi mai ei dyledswydd oedd - am ei bod yn cael ei chymhell gan anrhaethol gariad Crist - am ei bod yn teimlo dros eneidiau - am ei bod yn cael pleser yn y gwaith - ac am ei bod yn edrych ar daledigaeth y gwobrwy, yr orphwysfa nefol.
Y mae gan wragedd alluoedd a chyfleusderau i wneyd llawer o ddrwg neu dda. Y mae chwiorydd duwiol a ffyddlon yn sicr o wneyd llawer o ddaioni yn eu teuluoedd, ac yn Eglwys Crist. Gofyna Duw i bawb wneyd yr hyn a allant o ddaioni yn ôl eu cymhwysderau a'u hamgylchiadau; a gofala am eu gwobrwyo, ac am gadw eu coffadwriaeth yn fendigedig byth. Dyna fywyd rhinweddol, a diwedd dedwydd y chwaer ffyddlon Mrs. Alice Thomas.
Dyledswydd ei pherthynasau a'i chyfeillion yw ei hefelychu yn ei holl rinweddau, fel y gallont drwy ras gael ei chymdeithas eto yn y nef, lle bydd holl waredigion yr Arglwydd wedi goddiweddu llawenydd tragywyddol a phob cystudd a galar wedi ffoi ymaith am byth. Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn. Gwynfyd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd; gorphwys maent! A chanu maent gân Moses, gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen. Amen.
Dymunodd Mr Thomas arnom ganu y pennill canlynol ddiwrnod ei chladdedigaeth :-
Ffarwel breswylwyr Seion
A pherthynasau i gyd,
Ffarwel fy hen gym'dogion,
Ymadael wnes â'r byd;
Fy llais i atoch heddyw,
Yw, rhodiwch gyda Duw,
Fel caffoch wedi marw,
Mewn hedd drag'wyddol fyw.
IORTHYN GWYNEDD.