MR. HUMPHREY THOMAS. RACINE, WISCONSIN.
Mab ydoedd i Thomas a Jennet Evans. Ganwyd ef Gorphenaf 30ain, 1788, yn Bryn Heddwch, Llaneddwyn, sir Feirionydd.Bu farw 30aon o Orphenaf, 1864, yn 76 mlwydd oed. Ei afiechyd oedd anhwyldeb yn y cylla.
Awst 1af, ymgynullodd tyrfa fawr o'i gyfeillion a'i gymydogion i'w anfon i dy ei hir gartref - gweinyddodd y Parch. W. Hughes (T. C.) a'r ysgfifenydd.
Claddwyd ef yn barchus yn nghladdfa Racine.
Priododd pan yn 21ain oed, Mary Pugh o ardal Llwyngwril, sir Feirionydd,. Buont fyw gyda'u gilydd 52 o flynyddoedd.
Cawsant wyth o fechgyn ac un ferch, o ba rai y mae pump o'r meibion yn fyw a'r ferch; dau yn yr hen wlad, Thomas Evan, Tyddyn y Llidiart, a Dafydd Thomas, Dolgau Dyffryn Sir Feirionydd, a'r lleill yma, John, Robert, a'r Capten Evan Thomas, a Mary Jones.
Ei alwedigaeth er yn fachgen oedd saer maen, a'i dad o'i flaen. Bu am rai blynyddoedd yn gweithio yn Kent a B irmingham yu Lloegr, a diau ei fod yn un o'r crefftwyr gorau Adeiladodd bontydd a llawer o eglwysi a chapelydd.
Bu y Parch. R. Humphreys y Dyffryn ac yntau yn cydweithio llawer gyda'u gilydd. Bu yn byw yn Tyddyn y Pandy bedair blynedd a deugain, ac yn Glyyn (Artro) am chwech mlynedd.
Ymfudodd o'r hen wlad a'r teulu (ond dau) i Newark, Ohio. Bu yno am tua blwyddyn, symudodd i Pike Grove i fyw ar ffarm, a'r cyfanswm o arian a feddai oedd $80 wedi y daith o'r hen wlad a'i symudiad i Racine neu Pike Grove; ond yr oedd yn gweithio ei grefft, a bob amser yn siriol gyda ei waith, a gweithiodd ei grefft hyd o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth.
Yr oedd yn ddyn cryf iawn, iach yn wastad hyd ei afiechyd diweddaf. Ond aeth i glywed yn drwm tua deunaw mlynedd yn ol, ac i glywed yn drymach drymach fel na allodd glywed pregeth er ys deuddeg mlynedd. Argyhoeddwyd ef gan y gair hwnw fel moddion, sef fod Iesu yn dywedyd, "Gwnewch hyn er cof am danaf;" ac mai hyny a wnaeth iddo ddyfod i'r eglwys. "O cherwch fi, cedwch fy ngorchymynion," dywedai, "rhaid ei garu, rhaid ei garu, a chadw ei orchymynion." Derbyniwyd ef gan y Parch. John Parry tua deuddeg mlynedd cyn ei farwolaeth. Bu yn cymuno yn eglwys Loegr yn ddyn ieuanc; ond, meddai, "Gadewais, do, 'doedd hyny ddim yn iawn, nac oedd."
Bu yn dyfod i'r capel ddwywaith bob Sul am ddeuddeg mlynedd heb glywed dim ond swn ac ambell i air. Ond yr oedd yn ddarllenwr mawr ar ei Feibl, Taith y Pererin, a.y., ac yr oedd yn cofio y Beibl yn hynod. Siaradech am unrhyw ran o'r Beibl, yr oedd yn hollol hysbys o hono. Yr oedd yn wr geirwir, ni wyddai yn ymarferol beth oedd twyll nac anonestrwydd. Yr oedd yn gymydog tawel didwrw, cerid ef gan bawb; eto yr oedd yn graff iawn o gymeriadau dynion. Yr oedd yn hynod o hoff o'i hen gymydogion o'r hen wlad.
Byddai yn gartrefol iawn gyda yr hen frawd G. Richards, Dolgau, a chyda H. Evans, Wm. Hughes, ac eraill, hen breswylwyr Dyffryn Ardudwy. Ei brif bwnc ef oedd cariad at Dduw, a charu y brodyr - soniai am hyny yn aml iawn.
Cafodd gystudd trwm am wythnosau lawer. Daliodd ef yn dda heb rwgnach dim. Gweddiai o hyd. "O Arglwydd, O Iesu anwyl," oedd ei gyfarchiadau gwastadol. Cafodd fyw oes hir a hono i gyd yn ddyn diwyd yn ei alwedigaeth, gonest yn ei waith ac yn ei ymdrafod â phawb.
Llwyddodd yn hynod yn y byd, wedi dyfod i'r wlad hon, fel yr oedd ei amgylchiadau yn dda. Yr oedd yn hynod o anwyl o'i blant a'i wyrion, a dywedai yn aml, "0 na ddeuent yn grefyddol!" Dywedwn ninau yn anwyl wrthynt. Cofiwch, fe weddiodd eich tad lawer drosoch, ond mae ei weddi olaf wedi terfynu - ceisiwch Dduw eich tad, ymddiriedwch yn ei Grist a'i Waredwr anwyl ef. Yr Arglwydd a'n gwnelo ni oll yn ffyddlon hyd angeu.
C. D. JONES.